Proffiliau Aelodau
Beach Road
Rwyf yn ddylunydd-wneuthurwraig o ddillad lliain, ffelt cyfoes wedi ei rowlio â llaw a ffelt nuno, sgarffiau, lapiadau, hetiau a chlustogau. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda thecstilau yn yr ardal ers llawer blwyddyn.
Lon Y Traeth
Mae Grŵp Celf Bae Trearddur, dan arweiniad ein tiwtor Sue Griffiths, yn cyfarfod bob dydd Llun yn y Neuadd Bentref. Ar gyfer y Stiwdios Agored rydym yn arddangos yn Neuadd Bentref Bae Trearddur.
Agored drwy’r flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw.
LON GOCH
Mae Oriel Amlwch yn llawn dop o ddarnau hardd wedi’u crefftio â llaw, sy’n ei gwneud yn gyrchfan hanfodol i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Yn cael ei redeg gan dîm o wirfoddolwyr rydych yn sicr o gael croeso cynnes.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
LON GOCH
Mae Oriel Amlwch yn llawn dop o ddarnau hardd wedi’u crefftio â llaw, sy’n ei gwneud yn gyrchfan hanfodol i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Yn cael ei redeg gan dîm o wirfoddolwyr rydych yn sicr o gael croeso cynnes.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
11-13 High Street
Mae wyth o luniau gwreiddiol yn darlunio Syr Kyffin Williams RA, gan Karel Lek MBE, RCA, Malcolm Edwards RCA ac Ann Lewis RCA. Mae gennym hefryd Lyfrau Cristnogol Argraffiadau Cyfyngedig ar Hanes Methodistiaeth ym Môn o 1730 i 2011 gan yr Athro D Ben Rees, Lerpwl.
Holyhead Road
Rydym yn arddangos gwaith llawer o artistiaid Gogledd Cymru gydag arddangosfeydd newidiol bob mis o’r flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth fframio lluniau pwrpasol o safon.
Ar agor drwy’r flwyddyn
Oriel Môn yw prif amgueddfa ac Oriel arddangos Ynys Môn. I’w chynulleidfa artistig, mae’r Oriel yn cynnig rhaglen ddeinamig o arddangosfeydd creadigol o bob math o ffurfiau celf, gan arddangos gwaith arlunwyr profiadol a thalentau ifanc fel ei gilydd.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn.
4 Bro Dawel
Rydyn ni, Paul a Caz Westlake ac ein merch Bonnie Brace yn gweithio yn ein stiwdio yn Oriel Rhosgoch. Gwelir amrywiaeth fawr o gelf mewn gwahanol gyfrwng – tecstiliau, printiadau leino a ffotograffiaeth.
Agored 10am – 5pm.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw
Mae’r Oriel yn arbenigo mewn celf Gymreig gan arlunwyr amlycaf Cymru o’r gorffennol a’r presennol. Cynhelir arddangosfeydd unigol yn rheolaidd yn y brif oriel yn ogystal ag arddangosfeydd newidiol yn yr ystafelloedd eraill.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn drwy apwyntiad.
Mae Oriel Tŷ Celf yn arddangos gwaith Roger Richards, ffotograffydd sy’n byw ym Môn, a ffotograffwyr gwadd lleol. Mae Roger wedi bod yn ymwneud yn broffesiynol yn y celfyddydau gweledol ers dros 40 mlynedd, gan ennill llawer o wobrau rhyngwladol fel ffotograffydd ffilmiau sgrin fawr yn ogystal ag ennill enw fel ffotograffydd dawnus o dirluniau a lluniau llonydd cyfoes.
Cartre
Dw i wedi dysgu fy hun a dw i’n mwynhau arbrofi efo lliw. Fel plentyn tyfais i fyny ger Mynydd Parys a
daniodd fy noniau artistig mewn tirluniau, natur a
lliw Dw i’n gwethio mewn acryligau yn bennaf ond yn
mwynhau darganfod cyfryngau eraill
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Mae fy ngwaith i’n amrywiol ac mae’n gynnwys paentio, ffotograffiaeth, delweddu cyfrifiadurol a cherflunio. Trwy ddefnyddio’r haniaethol, ceisaf greu gwaith sy’n annog y gwyliwr i archwilio’i ymateb ei hun heb y canllawiau a roddir gan deitl.
Peintiadau gan arlunydd Cymreig y mae ei gwaith wedi ei ysbrydoli gan dirlun a’u gyfieithu’n haniaeth lliw o dymer ac emosiynau, wedi ei fynegi trwy ddwysedd cynnil a thryleuedd lliw ar gynfas.
Beach Road
Fe wnes i raddio B.A. (anrh) mewn celf a dylunio yn 2002. Ar ôl byw ar Ynys Môn am 43 mlynedd, rwyf hapusaf yn paentio tirlun a morlun, hefyd fy ngardd. Defnyddiaf acrylig fel sail i’m gwaith mewn olew.
Lliwiwr yw Crys sydd yn dangos ei chariad at naratifau trwy ei gwaith. Wedi’i hysbrydoli gan yr egni amrwd
a geir yn y dirwedd, mae’n parhau i gynhyrchu delweddau chwareus a llawn dychymyg.