Dw i’n creu ffigurau mewn clai ac mewn papier mâché a chymysgedd o’r ddau. Caiff y ffigurau clai eu tanio gyda gwydreddau heb fod yn realistig, weithiau mewn odyn raku. Dw i hefyd yn cloddio clai yn lleol ac yn cynhyrchu gwaith mwy arbrofol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.