Wythnosau Celfyddydau Perfformio
Fforwm Celfyddydau Ynys Môn yn lansio Wythnos Celfyddydau Perfformio Ynys Môn (APAW) i ddathlu a hyrwyddo talent amrywiol Ynys Môn, a fydd yn cynnwys detholiad eang o ddrama i oedolion a chynulleidfaoedd teuluol ynghyd ag ystod eang o arddulliau cerddorol. Mae hefyd yn cynnwys wythfed Gŵyl Ffilm Ynys Môn, SeeMôr VIII.
Mae croeso i grwpiau, cymdeithasau a pherfformwyr Ynys Môn gysylltu â ni i ymuno yn yr Wythnosau.
Yn rhedeg o 15-30 Hydref 2022

Shepherd's Hill
Rwyf yn paentio morluniau a thirluniau mewn olew ac acryligau. Astudiais yng Ngholeg Celf Ealing yn Llundain. Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau yn Llundain. Rwyf bellach yn byw ym Môn. Caf fy ysbrydoli gan hanes hen longddrylliadau, tirnodau a’r arfordir o amgylch yr ynys.

Mae’r Oriel yn gartref i Artism UK sy’n cefnogi artistiaid ar y sbectrwm awtistig. Yr Arddangosfa ar gyfer y Stiwdios Agored fydd ein 6ed sioe agored flynyddol. Rydym hefyd wedi gwahodd amryw o artistiaid lleol i arddangos eleni er mwyn hyrwyddo cynhwysiant.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw..

Unit 4 The Precinct
Agorwyd Galeri y Bay Tree gan Lucy a Paul ym mis Hydref 2019. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth fframio ac yn arddangos gwaith artistiaid dawnus lleol ar ein waliau. Rydyn ni’n lwcus bod Ynys Môn yn ynys mor brydferth ac ysbrydoledig.
Ar agor trwy’r flwyddyn

20 Castle Street
Dw i’n cynhyrchu amrywiaeth o emwaith aur ac arian yn fy stiwdio a galeri. Byddaf hefyd yn gwerthu gwaith dros 30 o gynllunwyr gemwaith annibynnol.

Menter gymunedol newydd yw Caffi Siop Mechell sy’n cynnwys caffi, a chyfres gyfnewidiol o arddangosfeydd gan artistiaid lleol – paentiadau Terrill Lewis ar hyn o bryd.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw

Penmon
Artistiaid mewn pren a charreg yw Susanna a Phil Callaghan, sydd hefyd yn creu delweddau cyfryngau cymysg haniaethol. Caiff eu gwaith ei ysbrydoli gan dirweddau a morweddau hardd, a goleuni a gwagle hynod Môn a gogledd Cymru
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Millbank
Mae Ucheldre yn rhaglennu digwyddiadau, cyngherddau, ffilmiau, darllediadau lloeren, arddangosfeydd, cymdeithasau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn mae’n arddangos gwaith gan artistiaid sy’n cymryd rhan, ynghyd â gweithdai.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

6 Church Street
Dw i wedi bod yn gwneud potiau, yn arddangos ac yn gwerthu ledled y wlad ers rhai blynyddoedd. Byddaf yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i wneud darnau domestig, addurniadol a cherfluniol. Byddaf yn peintio gydag olew ac acrylig yn ogystal.
Ar agor trwy’r flwyddyn

Llangoed
Dw i’n gweithio mewn arddull graffeg gan ddefnyddio ystod eang o ddefnyddiau.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Porth Y Felin
Mae fy stiwdio’n meddiannu dwy ystafell yn fy nghartref, sef oriel a gweithdy stiwdio ac mae’n agored yn ystod y Pasg a thrwy drefniant. Dw i’n paentio tirluniau Môn a Gwynedd yn bennaf mewn acrylig, olew a dyfrlliw.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Millbank
Olew ar gynfas yw fy ngwaith yn bennaf. Dw i’n mwynhau paentio pob gwrthrych, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â gogledd Cymru. Fel arlunydd sydd wedi ennill gwobrau am luniau o awyrennau, dw i’n ceisio adrodd hanes hedfan awyrennau yng Nghymru.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Penmon
Mae fy ngwaith yn cynnwys morluniau a thirluniau sy’n lleol i Fôn a gogledd Cymru. Dw i’n gweithio mewn dyfrlliwiau ac olewau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Ucheldre Avenue
Mae fy nghelf yn cael ei ddylanwadu gan hanes /tirlun Cymru ac wedi ysbrydoli’r cymeriadau ffermio, Gwyn a Gwawr. Dw i’n credu’n gryf mewn pŵer comedi i godi’r ysbryd ac yn aml yn cynnwys hynny yn fy ngwaith.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Oriel Môn yw prif amgueddfa ac Oriel arddangos Ynys Môn. I’w chynulleidfa artistig, mae’r Oriel yn cynnig rhaglen ddeinamig o arddangosfeydd creadigol o bob math o ffurfiau celf, gan arddangos gwaith arlunwyr profiadol a thalentau ifanc fel ei gilydd.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn.

4 Bro Dawel
Rydyn ni, Paul a Caz Westlake ac ein merch Bonnie Brace yn gweithio yn ein stiwdio yn Oriel Rhosgoch. Gwelir amrywiaeth fawr o gelf mewn gwahanol gyfrwng – tecstiliau, printiadau leino a ffotograffiaeth.
Agored 10am – 5pm.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw