Amdanom Ni

Amcan Fforwm Celf Ynys Môn yw hyrwyddo’r celfyddydau ym Môn. Caiff ei redeg gan bwyllgor o wirfoddolwyr a etholir gan yr aelodau; gweler y tab Pwyllgor am ei aelodaeth gyfredol. Yn sgil prinder adnoddau, mae’r Fforwm yn canolbwyntio ar drefnu Wythnosau Celfyddydau Ynys Môn: y Stiwdios Agored yn y Pasg ac Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn ym mis Hydref.

Ei uchelgais hirdymor yw creu cronfa dda o’r holl gymdeithasau, grwpiau ac unigol sy’n ymwneud â’r celfyddydau ar yr Ynys. I’r perwyl hwn, gwahoddir grwpiau ac unigolion sydd â diddordeb i wneud cais am broffil ar y wefan.

Mae Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn yn dathlu’r amrywiaeth enfawr o ddoniau artistig ac y cyd â Gŵyl Gelfyddydau Caergybi, drama, cwmnïau dawns, ysgolion, bandiau, corau, cerddorfeydd, cymdeithasau a chlybiau gan eu galluogi nhw i hyrwyddo’u gweithgareddau trwy gynnal digwyddiadau arbennig, rihyrsals neu ymarferion agored. Gweler yr adran Wythnosau Celfyddydau Perfformio ar y wefan.

Wythnosau Celf Ynys Môn: Mae’r Stiwdios Agored yn galluogi ymwelwyr i gyfarfod yr artistiaid yn eu stiwdios. Unwaith eto ceir manylion pellach a rhestrau llawn o dan yr Wythnosau Celf.

Mae aelodaeth o’r Fforwm am ddim ac mae croeso i unrhyw un â diddordeb neu’n ymwneud â’r celfyddydau mewn unrhyw ffordd i ymuno. Mae angen i’r rheini a hoffai Broffil Aelod fod naill ai’n gweithio, byw neu’n arddangos ym Môn. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb yn yr Wythnosau Celf neu’r Wythnosau Celfyddydau Perfformio cysylltwch yng Nghanolfan Ucheldre ar 01407 763361, neu marketing@ucheldre.org.

Mewngofnodi