Proffiliau Aelodau

Deborah Ash graduated from Edinburgh College of Art & went on to become a Concept Artist for a virtual reality game company in the US. She works with a variety of media, such as printmaking, pyrography & digital art.
Open all year by appointment

Rwyf yn artist amlddisgyblaethol, yn gwneud celf sy’n ymgorffori themâu personol iawn a sylwadau cymdeithasol wleidyddol, ac sy’n tyfu’n organig trwy’r broses o wneud.

Rating Row
Artistiaid Heneiddio’n Dda o Langefni ac Amlwch, pawb yn 50+ oed (neu’n hŷn!), sy’n gweithio mewn amrywiaeth helaeth o gyfryngau ac arddulliau. Gan baentio er pleser yn bennaf, mae llawer yn gwerthu eu gwaith yn llwyddiannus, yn cymryd comisiynau ac wedi ennill mewn Eisteddfodau lleol.

Llangoed
Mae’r Llwybr Cerfluniau yn cyflwyno gosodiadau,
perfformiadau a cherfluniau o amgylch chastell mwnt
a beili Aberlleiniog, drwy’r coed ac ar draeth Lleiniog.

Caim
Artistiaid/gwneuthurwyr sy’n arddangos: Jo Alexander
(cyfryngau cymysg 2D), Maggie Evans (basgedi),
Lillemor Latham (cerameg crochenwaith caled),
a Lydia Latham (llestri pren wedi’u cerfio â llaw).
Arddangosiadau o arfer gwaith.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Farmer Street
Paentiwr a gwneuthurwr printiau sy’n broffesiynol ers 1975. Wedi arddangos yn helaeth gan gynnwys: yr Academi Frenhinol, y Victoria and Albert Museum, yr Academi Frenhinol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a’i waith mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Lluniau gwreiddiol, brasluniau a phrintiau newydd i’w gweld yn y stiwdio.

Llanddona
Rwyf yn paentio morluniau a thirluniau mewn olew ac acryligau. Astudiais yng Ngholeg Celf Ealing yn Llundain. Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau yn Llundain. Rwyf bellach yn byw ym Môn. Caf fy ysbrydoli gan hanes hen longddrylliadau, tirnodau a’r arfordir o amgylch yr ynys.

Rydym yn grŵp o artistiaid sy’n rhannu ac yn gofalu am ein gilydd gan werthu trwy gaffi /siop yn Dulas, ac mae gennym amrywiaeth helaeth o nwyddau crefft yn cael eu harddangos. Mae ein caffi yn gweithredu fel canolfan gymunedol ar gyfer gweithdai galw heibio celfyddydol ac fel lle cymdeithasol i ofalwyr ddod ynghyd.

3 Lôn Foel Graig
Mae Annie Rosewarne a Angela Thompson yn dylunio ac yn gwneud amrywiaeth o nwyddau brethyn hyfryd a chrefftus, gan gyfnewid adnoddau i leihau ac ailddefnyddio deunyddiau. Mae bagiau, pyrsiau, bagiau gemwaith a chasau sbectol Annie yn cyfateb o ran lliwiau ac wedi eu leinio. Mae gwaith Angela yn cynnwys broetsau o frethyn, cardiau conau anrhegion brodwaith Victoraidd, hongiadau wal a collages.

Dw i’n gwneud modrwyau llwy arian hynafol â llaw, gan ddefnyddio arfau llaw, a’u siapio’n oer. Mae’r fodrwy llwy arian yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif pan oedd hanesion am weision yn dwyn llwy aur o’r plasty lle byddent yn gweithio arni a’i throi’n fodrwy briodas!

Shepherd's Hill
Rwyf yn paentio morluniau a thirluniau mewn olew ac acryligau. Astudiais yng Ngholeg Celf Ealing yn Llundain. Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau yn Llundain. Rwyf bellach yn byw ym Môn. Caf fy ysbrydoli gan hanes hen longddrylliadau, tirnodau a’r arfordir o amgylch yr ynys.

Artistiaid preswyl Zara Kimbley-Henry, John Kimbley-Henry, Dylan Roberts, Petra Micklethwaite, Pat Mowell, Helen Worthington. Casgliad o waith amrywiol gan artistiaid lleolyn cael eu cefnogi gan ddwy arddangosfa unigol bob mis. Rydym ni hefyd yn fframio.

2 Market Street
Mae Stiwdio Artisan yn farchnad newydd yng Ngogledd yr Ynys yn arbenigo mewn gwaith celf a chrefft yn ogystal â darparu adnoddau addas i bob oed a gallu. Dan ni hefyd yn arddangos gwaith artistiaid a chrefftwyr lleol o dro i dro.
Ar agor trwy’r flwyddyn

Mae’r Oriel yn gartref i Artism UK sy’n cefnogi artistiaid ar y sbectrwm awtistig. Yr Arddangosfa ar gyfer y Stiwdios Agored fydd ein 6ed sioe agored flynyddol. Rydym hefyd wedi gwahodd amryw o artistiaid lleol i arddangos eleni er mwyn hyrwyddo cynhwysiant.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw..