Proffiliau Aelodau
Deborah Ash graduated from Edinburgh College of Art & went on to become a Concept Artist for a virtual reality game company in the US. She works with a variety of media, such as printmaking, pyrography & digital art.
Open all year by appointment
Rwyf yn artist amlddisgyblaethol, yn gwneud celf sy’n ymgorffori themâu personol iawn a sylwadau cymdeithasol wleidyddol, ac sy’n tyfu’n organig trwy’r broses o wneud.
Rating Row
Artistiaid Heneiddio’n Dda o Langefni ac Amlwch, pawb yn 50+ oed (neu’n hŷn!), sy’n gweithio mewn amrywiaeth helaeth o gyfryngau ac arddulliau. Gan baentio er pleser yn bennaf, mae llawer yn gwerthu eu gwaith yn llwyddiannus, yn cymryd comisiynau ac wedi ennill mewn Eisteddfodau lleol.
Llangoed
This event has been postponed due to weather.
Mae’r Llwybr Cerfluniau yn cyflwyno gosodiadau,
perfformiadau a cherfluniau o amgylch chastell mwnt
a beili Aberlleiniog, drwy’r coed ac ar draeth Lleiniog.
Caim
Artistiaid/gwneuthurwyr sy’n arddangos: Jo Alexander
(cyfryngau cymysg 2D), Maggie Evans (basgedi),
Lillemor Latham (cerameg crochenwaith caled),
a Lydia Latham (llestri pren wedi’u cerfio â llaw).
Arddangosiadau o arfer gwaith.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Llanddona
Rwyf yn paentio morluniau a thirluniau mewn olew ac acryligau. Astudiais yng Ngholeg Celf Ealing yn Llundain. Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau yn Llundain. Rwyf bellach yn byw ym Môn. Caf fy ysbrydoli gan hanes hen longddrylliadau, tirnodau a’r arfordir o amgylch yr ynys.
Rydym yn grŵp o artistiaid sy’n rhannu ac yn gofalu am ein gilydd gan werthu trwy gaffi /siop yn Dulas, ac mae gennym amrywiaeth helaeth o nwyddau crefft yn cael eu harddangos. Mae ein caffi yn gweithredu fel canolfan gymunedol ar gyfer gweithdai galw heibio celfyddydol ac fel lle cymdeithasol i ofalwyr ddod ynghyd.
3 Lôn Foel Graig
Mae Annie Rosewarne a Angela Thompson yn dylunio ac yn gwneud amrywiaeth o nwyddau brethyn hyfryd a chrefftus, gan gyfnewid adnoddau i leihau ac ailddefnyddio deunyddiau. Mae bagiau, pyrsiau, bagiau gemwaith a chasau sbectol Annie yn cyfateb o ran lliwiau ac wedi eu leinio. Mae gwaith Angela yn cynnwys broetsau o frethyn, cardiau conau anrhegion brodwaith Victoraidd, hongiadau wal a collages.
Dw i’n gwneud modrwyau llwy arian hynafol â llaw, gan ddefnyddio arfau llaw, a’u siapio’n oer. Mae’r fodrwy llwy arian yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif pan oedd hanesion am weision yn dwyn llwy aur o’r plasty lle byddent yn gweithio arni a’i throi’n fodrwy briodas!
Shepherd's Hill
Er bod fy ngwaith yn haniaethol yn bennaf, mae
o hefyd yn gynrychioliadol o Ynys Môn a Gogledd Cymru. Rwy’n caru’r golau, yr awyr fawr, y môr mawr a gobeithio fy mod yn adlewyrchu hyn yn fy mhaentiadau boed yn fawr ar gynfas neu’n fach o dan wydr – dewch i weld!
Artistiaid preswyl Zara Kimbley-Henry, John Kimbley-Henry, Dylan Roberts, Petra Micklethwaite, Pat Mowell, Helen Worthington. Casgliad o waith amrywiol gan artistiaid lleolyn cael eu cefnogi gan ddwy arddangosfa unigol bob mis. Rydym ni hefyd yn fframio.
2 Market Street
Mae Stiwdio Artisan yn allfa annibynnol ar arfordir y Gogledd Ynys Môn yn arbenigo mewn celf, crefft a chynnyrch lleol hefyd fel cyflenwadau addas i bob oed neu allu.
Ar agor trwy’r flwyddyn
Mae’r Oriel yn gartref i Artism UK sy’n cefnogi artistiaid ar y sbectrwm awtistig. Yr Arddangosfa ar gyfer y Stiwdios Agored fydd ein 6ed sioe agored flynyddol. Rydym hefyd wedi gwahodd amryw o artistiaid lleol i arddangos eleni er mwyn hyrwyddo cynhwysiant.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw..
Arlunydd Alison Englefield a gwneuthurwr ffilm Clare Calder-Marshall yw Artwaves. Mae’r ddwy arlunydd yn ymateb i’n amgylchedd o’n hamgylch, y presennol a’r gorffennol.
Ysbrydoliaeth: cerrig beddi llechen wedi’n cerfio ac hanes. Cyfrwng: Cyfrwng cymysg ar gynfas, collage a phrintiadau. Broc mor: llechen/metel/tsieni yn arwain at gerfluniaeth,ffotograffaeth ac animeiddio.