Proffiliau Aelodau
Dw i’n creu ffigurau mewn clai ac mewn papier mâché a chymysgedd o’r ddau. Caiff y ffigurau clai eu tanio gyda gwydreddau heb fod yn realistig, weithiau mewn odyn raku. Dw i hefyd yn cloddio clai yn lleol ac yn cynhyrchu gwaith mwy arbrofol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Llanddaniel
Rwyf yn gweithio mewn acrylig yn bennaf, gydag anifeiliaid o bob math yn cynnig y gwrthrych a’r ysbrydoliaeth i’m paentio. Fy nysgu fy hun a wnes i, ond rwyf wedi bod yn paentio ac yn arddangos ers yn 15 oed ac yn dal i fwynhau’r her ddyddiol o greu rhywbeth newydd a chyffrous.
Beaumaris,
Cyflwyno gosodiadau, perfformiadau ac archwiliadau o
galchfaen a phowdr calchfaen yn ei wahanol ffurfiau.
Mae Mari Rose Pritchard a Julie Upmeyer yn cyflwyno
‘Void Fraction’, ymchwiliad parhaus i athreiddedd ac
amser dwfn. Gweler ein gwefan am amseroedd
perfformiad
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Eleni mae gennym ddau arlunydd yn gweithio yn y Gerddi Cudd; mae Sarah Key yn tynnu ei hysbrydoliaeth o’r blodau, dail a phlanhigion tra bod John Hedley yn gweithio ar baentiadau a gwaith collage a ysbrydolir gan y coed yng Nghoed Cadnant.
Glanhwfa Road
Graddiaid mewn Gwneud Printiau Celf Gain, ond yn ddiweddar rwyf wedi ymddiddori mewn gwaith mosäig. Dyfarnwyd grant imi gan Gyngor Celfyddydau Cymru i fynychu cwrs mosäig yn Ravenna yn yr Eidal. Hoffaf y rhythm y mae mosäig yn ei greu, a’r ffordd y mae lleoliad ac adlewyrchiad y golau’n effeithio ar y gwaith.
Llangristiolus
Mae fy ngwaith yn cynnwys paentiadau olew mawr ar ganfas, siarcol a lluniadau pensel. Teimlaf berthynas agos iawn â phethau sy’n plygu a marw wrth iddynt ystumio o’u ffurfiau unplyg. Blodeuo organig a lliwiau daearol, mae’r gwaith yn dathlu chwilfrydedd am y ffurfiau naturiol a geir mewn gwrychoedd a chaeau.
28A Steeple Lane
Mae Georgina Rambton yn paentio portreadau cyfoes ar raddfa fawr mewn dyfrliw/gouache ac acrylig. Mae ei gyrfa’n rhychwantu 40 mlynedd, fel darlithydd a dylunydd. Arddangosir ei gwaith yn rhyngwladol yn ogystal ag yn lleol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Ffordd Brynsiencyn
Dewch i ymweld â fy stiwdio ysgythru i weld sut mae’r delweddau yn cael eu printio oddi ar blatiau copr a sinc.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Glanrafon
Mae Peter Read yn gwneud printiau giclée lliwgar i godi ei galon. ddeng mlynedd a bydd detholiad o’i ymdrechion gorau yn cael eu harddangos. Mae Peter wedi’i ysbrydoli gan Paul Klee a John Craxton.
Holyhead Road
Fy ysbrydoliaeth yw’r tirlun naturiol a’r hyn a grewyd gan ddyn, a’r berthynas rhyngddynt. Ceisiaf ddisgrifio effaith goleuni ar yr hyn a welaf. Gweithiaf mewn olew ac acrylig yn bennaf.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Menai Bridge
Mae cerfluniau a phaentiadau Dottie-may yn symbol o
themâu personol trwy fotiffau o chwilfrydedd naturiol
a’r ffigwr benywaidd. Mae gwaith Jonathan yn archwilio
natur, cof, a chanfyddiad trwy baentiadau olew haniaethol.
Mae Llio Rhydderch yn delynores teires o enwogrwydd rhyngwladol. Mae wedi cydweithio gyda nifer o gerddorion amlwg o wahanol gefndiroedd ac wedi perfformio mewn nifer o brif wyliau rhyngwladol. Yn ei chyfansoddiadau mae dylanwad ysbrydolwydd Celtaidd, hen hanes a chwedloniaeth Cymru yn drwm ar ei gwaith.
Millbank
Mae straeon, natur a bywyd yng Nghymru yn fy ysbrydoli i wneud paentiadau a cherfluniau. Dw i wrth fy modd yn arbrofi gyda phob mathau o dechneg a deunyddiau i wneud fy ngwaith yn ddiddorol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Bae Trearddur
Mae fy ngwaith yn seiliedig ar fy ymwneud a diddordeb yn y sector amaethyddol a gwledig. Wedi’i ysbrydoli gan waith, bywyd, pobl, lleoedd ac anifeiliaid perthynol i’r ffordd hon o fyw. Rwy’n gweithio ym maes olew yn bennaf
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Rwyf yn paentio’n bennaf trwy gyfrwng dyfrlliwiau ac acryligion. Rwyf yn mwynhau paentio tirluniau, morluniau, adeiladau a gwahanol wrthrychau mewn mannau anghysbell o Fôn, fel coed wedi eu plygu gan y gwynt, hen giatiau, waliau a hen beiriannau amaethyddol.