Proffiliau Aelodau
Mae Steven yn arbenigo mewn golygfeydd arfordirol. Gellir prynu cardiau cyfarch, printiau, paentiadau olew gwreiddiol a’r llyfr Llwybr Arfordir Môn gan yr oriel neu trwy’r wefan. Y noson agoriadol ar gyfer paentiadau newydd yn nos Wener 6 Ebrill, 7-9pm.
Glanrafon
Cefais fy magu ym Mhorthaethwy ac astudiais yn Lerpwl, Chelsea a’r RCA. Bûm yn gweithio fel darlunydd ac uwch ddarlithydd mewn colegau celf ac fel cyfarwyddwr
celf y cylchgrawn Raw Vision. Dw i’n paentio ar lechen, gan greu tirluniau a gemwaith wedi eu hysbrydoli gan Gymreictod.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Fel artist amlddisgyblaethol sy’s byw yn Llangoed, Biwmares, ceisiaf ddal harddwch ein hynys, y moroedd a’r mynyddoedd y tu hwnt mewn amrywiaeth o ffurfiau. Arbrofaf gyda’r defnydd o liw, gwead, goleuni ac ychydig o ddigrifwch i greu fy nghelfyddyd.
Pan fyddaf yn tynnu llinell mae edrych a gweithredu’n rhyngweithio â’i gilydd, gyda’r llinell yn amgáu, torri i ffwrdd neu rannu. Dro arall fyddaf yn sgriblo cyfaint nes y dof i’r ymyl lle mae’r ddelwedd yn disgyn i’r bydysawd. Caiff y sgribliadau eu gwneud yn anymwybodol, ni allant ddweud celwydd, ni allant fod yn anghywir, ond maent yn fy nhynnu i mewn, yn ffurfio adeiladwaith – a gwneud synnwyr.
Mona Street
Ffotograffydd sy’n gweithio ar ddetholiad amrywiol o “Gyfansoddweithiau Celfyddyd Gain” yn rhai Swreal, Canoloesol, y Dadeni, Ceffylau a chelfyddyd ffantasi Gothig. Detholiad o argraffiadau cyfyngedig fforddiadwy o gelf ar werth yn Oriel / Stiwdio preifat Raymond. Edrychaf ymlaen at eich gweld, croeso i bawb.
Valley
Mae gen i hoffter angerddol o liw a gwead, a dw i’n cynhyrchu gwaith sy’n adlewyrchu hyn. Fy ngobaith yw ei fod yn cyfleu’r optimistiaeth a’r gorfoledd dw i’n eu teimlo am yr hyn sydd gan y byd i’w gynnig, ac yn codi’r ysbryd yn yr un ffordd â phan dw i’n paentio.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Pen-Dref Street
Dw i wrth fy modd gyda dwysedd lliw a chyfoeth paent olew, gan daenu’r paent yn dew a heb ei wanhau, ac yn aml yn cymysgu’n uniongyrchol ar y cynfas. Fy nod yw dal realiti ffisegol natur, ei wead, lliw a drama’r golau. Môn yw fy ngwrthrych.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Penysarn
Mae Mike Knowles yn darlunio a phaentio’r tirlun sy’n amgylchynu ei gartref a hefyd y ffurf dynol, yn aml yn y dosbarthiadau bywyd a gynigir gan Brifysgol Cymru Bangor lle mae’n Ymgynghorydd Celfyddydau Cain ar hyn o bryd. Mae wedi cynnal sawl arddangosfa ac mae ganddo waith mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus.
Penysarn
Artist breifat iawn yw Veronica Knowles, mae ei thestunau bron i gyd yn canolbwyntio ar ei gardd ei hun, ei theulu, ei ffrindiau a’i hanifeiliaid. Er nad yw hi yn arddangos ei gwaith yn aml, mae ganddi ddarnau mewn casgliadau preifat a chyhoeddus.
(English) I create collage and assemblage art as little collections or scenes composed in shadow boxes.
I like to re-imagine a new meaning for ordinary and extraordinary objects.
My background is in Illustration, and I collect unlikely objects to create shrine like pictures/collages which have their own story or poem.
I received my BA in Art & Design from Newport College of Art, Wales.
I now have a studio on Anglesey.
I am a trained illustrator and I worked for Bangor University as an
Illustrator and book designer, before leaving to go and work in India for several years.
Dwyran
Dw i’n cynllunio ac yn gwneud gemwaith o emau anarferol. Caf fy ysbryoli gan dirwedd hardd a chwedlau hudol yr ynys. Caiff yr holl osodiadau arian eu gwneud o arian amrwd yn fy stiwdio a’r holl emau eu torri â llaw yn fy stiwdio.
Eleni byddaf yn cyfrannu elw yr holl emwaith i helpu ffoaduriaid o’r Ukraine.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Millbank
Peter Alexander Lane AGavA. Fel Aelod Cyswllt o’r ‘Guild of Aviation Artists’ mae fy mhrif ffocws ar beintio ar y thema o Hanes Hedfan Cymru.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Darluniau llaw rydd, inc ar bapur a chynfas. Rwyf yn gwneud anrhegion personol, dyluniadau thematig, logo, symbolau, cynfasau o bob maint, dreigiau Cymreig anhygoel, a llawer mwy!
Caim, Penmon
Mae Lydia yn cyfuno Kolrosing a dyluniadau cain i ddal delweddau botanegol ar bren. Gan ddefnyddio dulliau gweithio pren traddodiadol, mae Lydia yn cyflwyno gwaith wedi’i ysbrydoli gan gasgliadau sbesimenau Fictoraidd.
Yn ogystal â dyddiau sydd ar agor yn ystod yr Wythnosau rydw i ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy apwyntiad ymlaen llaw.
Longford Road
Iwan Lewis, sydd wedi graddio’n ddiweddar o’r Coleg Celf Brenhinol. Caiff fy nghyfrwng mynegiant ei herio gan angen i amau ei darddiad, o ddeall paentio trwy EG Spielberg i sgwrsio gyda Henri Rousseau trwy danc pysgod.