Proffiliau Aelodau
Penmon
Mae Marion yn cael ei denu at yr hen dechnegau argraffeg o engrafiadau, toriad leino a syanotype. Trwy’r rhain, mae hi’n archwilio tirweddau, bywyd gwyllt a choed Ynys Môn a thu hwnt.
Agored drwy’r flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw.
Cemlyn
Geiriau, gwyneb, perthyn, tir, porthladd, pobol, haenau, dwr, chwilio, chwerthin, rhythm, sŵn, erydu, tywydd, gwead, môr, hap a damwain, patina, paent, argraffu, anifail, cyfosod, aderyn, acrylig, olew, hwyl, ymlwybro, plastig, llyfnu, lliw, treugliad amser, graffit, leino, hiraeth, cyswllt, cariad, Cymreictod, côf.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
The Boatpool
Wrth gael fy ysbrydoli’n weledol gan arfordir Môn a chregyn wedi torri, dw i’n creu cerfluniau cerameg sy’n adlewyrchu’n taith trwy fywyd, gan atseinio’r nerth a’r breuder sydd ynom ni.
Due to unforseen circumstances I will not be able to open on the 1st of April.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw
Cyfarwyddwr GeoMon, sefydliad UNESCO sy’n gofalu am ddaeareg ryfeddol Ynys Môn, yn cysylltu fy ngwybodaeth ddaearegol â’m gwaith. Rwy’n archwilio themâu o sut mae daeareg hynafol yn dylanwadu ar y biolegol presennol.
Agored drwy’r flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw.
Croeslon, Ceirchiog
Yn arbenigo mewn gemwaith morwydr naturiol. Arddangosfa o hanes morwydr ar gael i’w weld. Ethos Seapig yw Uwchgylchu, Ailgylchu, Moesegol, Cynaliadwy; ac mae gennym ni siop eco sy’n arddangos gwaith gwneuthurwyr eraill sy’n gyfeillgar a’r blaned.
Ar agor drwy’r flwyddyn
Star
Arlunydd bywyd gwyllt yw Ian ac mae’n gweithio mewn pensil graffit, dyfrlliw ac olew, a’i brif ddiddordeb yw adar. Mae’n aelod o Gymdeithas Ryngwladol Celf Bywyd Gwyllt ac mae’n arddangos yn eu harddangosfa flynyddol a gynhelir yn Nature in Art, Twigworth, Caerloyw, gan dderbyn tair gwobr yn 2007 a 2008.
Mae Keith Shone, a aned yn 1931 ym Mynydd Isa, yn fwyaf dnabyddus am ei baentiadau realistig o chwareli a mynyddoedd Eryri. Mae gwaith newydd Keith yn ymdrin â’r un deunydd pwnc, ond yn defnyddio amrywiaeth o wahanol dechnegau i greu delweddau haniaethol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Diddordeb bod yn hunan-gyflogedig? Gall y Ffatri Fenter® trwy gynllun Blas Ar Fenter gefnogi unigolion di-waith Môn ac Arfon i ddatblygu syniad busnes a rhoi cyfle I gleientiaid I dreialu’r syniad busnes. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch celf a chrefft ein cleientiaid.
Bull Bay Road
Llythrennau, geiriau, rhyddiaith – defnyddiaf galigraffeg i greu darnau hardd o gelf, gydag iaith yn graidd iddynt. Mae’r gwaith yn amrywio o’r anarferol i’r ffurfiol, fel comisiynau personol neu dim ond er mwyn y pleser o greu rhywbeth.
Mae gwaith Anne wedi ei ysbrydoli gan ei ffydd a gwead a lliw yn y tirwedd, coed a’r môr o gwmpas Ynys Môn. Mae hi’n defnyddio ystod o gyfryngau gan gynnwys sidan, dyfrlliw, pastel a batic ac yn cynnal gwersi a chlybiau yn wythnosol. Mae hi hefyd yn arddangos yn Oriel Môn.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Stiwdio fechan drawiadol yn edrych dros y foryd, yn llawn i’r ymylon o baentiadau bywydau gwyllt a thirluniau, llyfrau, printiau a chardiau. Mae gwaith Philip mewn dros 70 o lyfrau, llawer o gylchgronau ac mewn amryw o gasgliadau Brenhinol a Chenedlaethol a llawer o gasgliadau preifat.
Chapel Street
Yn dathlu 22 mlynedd yn Stiwdio Galeri Gaerwen Isaf. Datblygiad cyffrous newydd yn defnyddio delweddau 2D o’r Tryloywder Tirluniau gyda fformat 3D. Mae peintiadau gwreiddiol, printiadau a chardiau lled-giwbaidd dal ar gael.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Teimlaf yn angerddol am anifeiliaid a’n tirwedd rhyfeddol. Rwyf wedi darganfod pastelau pastel yn ddiweddar ond rwyf hefyd yn mwynhau dyfrlliwiau ac olewau.
Dan ni, Brenda Jones a Tegwyn Francis Jones, yn cynhyrchu gwaith celf o ddiddordeb lleol. Mae gennym ni ddiddordeb yn hen hanes Ynys Môn ac mae rhai darnau
o waith yn ymwneud â’r iaith a diwylliant Cymraeg. Mae darnau eraill yn hollol fympwyol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
1 Cadnant Court
Grŵp o artistiaid yw’r Straits Art Society sy’n paentio o bersbectifau unigol o dan arweiniad eu tiwtor Chris Hull gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau. Mae aelodau yn gwerthu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ystod ein harddangosfa flynyddol yn Biwmares.