Proffiliau Aelodau

Arlunydd Alison Englefield a gwneuthurwr ffilm Clare Calder-Marshall yw Artwaves. Mae’r ddwy arlunydd yn ymateb i’n amgylchedd o’n hamgylch, y presennol a’r gorffennol.
Ysbrydoliaeth: cerrig beddi llechen wedi’n cerfio ac hanes. Cyfrwng: Cyfrwng cymysg ar gynfas, collage a phrintiadau. Broc mor: llechen/metel/tsieni yn arwain at gerfluniaeth,ffotograffaeth ac animeiddio.

South Stack
Mae byw ger Ynys Lawd rhwng y môr a’r mynydd yn rhoi’r awyrgylch perffaith imi ar gyfer paentio tirluniau; mor wahanol i ansawdd fregus paentio blodau y swynais ynddo pan oeddwn i’n byw yn y Dwyrain Pell am sawl blwyddyn.

Cafodd Academi Ddawns a Drama Barton ei ffurfio yn 1990 gan Helen Barton, Pennaeth yr Academi. Ers hynny, mae’r Academi wedi tyfu’n ysgol hynod lwyddiannus ac wedi ennill llawer o glodydd. Mae’r myfyrwyr wedi perfformio yn Theatr Ei Mawrhydi, Sadlers Wells, y London Palladium, Tŷ Opera Manceinion, Neuadd Albert, Disneyland Paris a Walt Disney World, Florida.

Unit 4 The Precinct
Agorwyd Galeri y Bay Tree gan Lucy a Paul ym mis Hydref 2019. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth fframio ac yn arddangos gwaith artistiaid dawnus lleol ar ein waliau. Rydyn ni’n lwcus bod Ynys Môn yn ynys mor brydferth ac ysbrydoledig.
Ar agor trwy’r flwyddyn

Llandegfan
Natur, cefn gwlad, y mynyddoedd a’r arfordir. Mae fy nyfrliwiau ac acryligau wedi eu harddangos yn fy Oriel/Stiwdio. Edrychaf ymlaen at drafod fy ysbrydoliaeth, technegau a deunyddiau.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

11 Church Street
Mae Janet yn canolbwyntio ar newidiadau tymhorol ei chynefin ar Ynys Môn. Mae’n peintio’n reddfol gan newid cyfansoddiad a lliw wrth weithio ar sawl darn ar y tro. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan y man a’r lle mae
hi’n byw ac yn ei garu
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

11 Church Street
Mae Janet yn canolbwyntio ar newidiadau tymhorol ei chynefin ar Ynys Môn. Mae’n peintio’n reddfol gan newid cyfansoddiad a lliw wrth weithio ar sawl darn ar y tro. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan y man a’r lle mae hi’n byw ac yn ei garu.

Pentre Berw
Caiff fy mhaentiadau olew eu hysbrydoli gan natur
fel arfer, weithiau trwy gyfrwng ffotograffiaeth. Mae’r gyfres hon o baentiadau yn tueddu i glosio i mewn at y gwrthrych, gan greu ansawdd haniaethol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Llanddona
Cefais fy ngeni yn Sir Gaer a symudais i fyw i Sir Fôn yn ddiweddar. Caf fy ysbrydoli gan unrhyw beth ym myd natur; yn dirluniau, morluniau, coed, anifeiliaid ac adar. Rwyf yn gweithio gyda dyfrlliwiau ac olewau, pensel ac inc. Mae fy nghomisiynau’n cynnwys portreadau a gwaith darluniadaol. Rwyf hefyd yn ddylunydd gerddi cymwysedig.

The Drive
Bagiau siopa wedi eu paentio â llaw neu luniau wedi’u fframio. Mae eich ffotograff ac enw’ch anifail anwes yn gwneud anrhegion penblwydd neu anrhegion arbennig i rywun o 3 oed i 103 oed. Mae Môn yn ynys hardd gyda golygfeydd lleol ac mae golygfeydd lleol yn boblogaidd iawn. Mae fy magiau wedi cael eu hanfon i bob rhan o’r byd, o Brasil i Awstralia, o Portsmouth i Preston.

Lanfwrog
Dw i’n paentio tirluniau lleol i ddatblygu themâu, sy’n bennaf ynghylch materion o hunaniaeth. Mae fy ngwaith diweddar wedi dod yn fwyfwy ffigurol gyda thripiau i fannau pellach yn ysbrydoli cyfeiriadau newydd. Dw i’n ymhel rhywfaint â gwneud ffiImiau hefyd.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

20 Castle Street
Gan weithio o’m stiwdio ac oriel glan-môr ym Miwmares, dylunydd/gwneuthurwr gemwaith ydw i sy’n gweithio mewn mwclis cerameg, gwydr môr, arian ac aur. Ar ôl symud yn ddiweddar, rwyf bellach gyda Jane Fairbairn, ar Stryd Fawr Biwmares. Rwyf hefyd yn cadw stoc o emwaith sydd wedi’i wneud gan ddylunwyr cydnabyddedig eraill o Fôn a gogledd Cymru.

Llandyfrydog
Gellid disgrifio fy ngwaith fel cipolwg o fywyd mewn collage. Byddaf yn mynd trwy ddetholiad o wybodaeth ac yn gosod y delweddau ar arwyneb statig sy’n dod yn fan o fyfyrdod. Byddaf yn cyfeirio at destunau a straeon o draddodiad eang. Byddaf yn cyfeirio’n gyson at ddywediadau o’r Beibl.

Rwyf yn arlunydd sydd wedi dysgu fy hun, ac ond wedi bod yn paentio o ddifrif ers y 5-6 blynedd diwethaf. Rwyf yn paentio cŵn ac adeiladau’n bennaf. Rwyf yn paentio mewn acrylig, naill ai’n teneuo fel dyfrlliw neu’n dew, gan ddibynnu ar hyn yr ydw i’n ei baentio. Rwyf yn cymryd comisiynau.

Penmon
Artist sy’n gweithio o’i stiwdio yn Penmon yw Jane. Mae ei phaentiadau dyfrlliw a’r lluniadau yn ddathliad o gariad at natur, wedi ei gyfoethogi trwy fyw ym Môn gyda’i harddwch rhyfeddol ac amrywiaeth o fywyd gwyllt.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.