Croeso!

Amcan Fforwm Celf Ynys Môn yw hyrwyddo’r celfyddydau ym Môn. Mae aelodaeth o’r Fforwm am ddim ac mae croeso i unrhyw un â diddordeb neu’n ymwneud â’r celfyddydau mewn unrhyw ffordd ymuno.

Mae’r tab Proffiliau Aelodau uchod yn rhestru’r holl aelodau cyfredol ynghyd â manylion o’u gwaith. Mae’r tab Stiwdios Agored yn rhoi manylion o Wythnosau Stiwdios ac Orielau Agored (1 – 16 Ebrill 2023) gyda manylion o bawb sy’n cymryd rhan. Gellir gweld copi o’r 2023 Canllaw i lawr o fan hyn.5 Bydd yr Wythnosau Celfyddydau Perfformio nesaf yn cael eu cynnal dros y cyfnod Hydref /Tachwedd 2023, ac ar hyn o bryd maent yn cynnwys y rheini a gymerodd rhan yn y rhai diwethaf. Gobeithiwn y byddwch yr wybodaeth ar y wefan hon yn ddefnyddiol ichi ac, os nad ydych chi o Fôn, y bydd yn eich annog chi i ddod draw ac ymweld â’n hynys hardd sydd mor llawn o bobl greadigol!

Bydd hyn yn cynnwys yr ail Gŵyl Ffilm SeeMôr; manylion o dan y tab SeeMôr.

Newyddion diweddaraf:

STIWDIOS AGORED MÔN 2023

Bydd arlunwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilm, gwneuthurwyr printiau, artistiaid gosod a chrefftwyr yn falch o’ch croesawu i’w stiwdios yn ystod ein Wythnosau Celf Môn (WCM): Wythnosau Stiwdios ac Orielau 1-16 Ebrill 2023.
Mae Ynys Môn yn ynys brydferth. Dewch yma am wyliau – mwynhewch y traethau, y môr a’r tirwedd yn ogystal ag ymweld â’r artistiaid, a mwynhewch y teithiau.

Bydd ychwanegiadau a newidiadau na ellir eu hosgoi i’r Canllaw yn cael eu postio i:

ww.angleseyartsforum.org neu galwch i mewn i Ganolfan Ucheldre (01407 763 361)

Teithiau cerdded celf a thirwedd

Mae rhaglen awyr agored eleni o deithiau cerdded a sgets boblogaidd wedi’i nodi isod. Bydd y teithiau cerdded yn cyfuno ymweliadau â stiwdios artistiaid â mewnwelediadau ar y ffordd i’r dirwedd a’r hanes, sy’n ysbrydoli llawer o’n hartistiaid. Rhoddir cyfarwyddyd ar deithiau cerdded braslunio, sydd felly’n addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai profiadol.

TAITH 1: DYDD SADWRN 1 EBRILL 2023 – Taith gerdded ysgrifennu creadigol wedi ei ysbrydoli gan y tirwedd, y môr a’r tirweddau ôl-ddiwylliannol gyda Wil Stewart yn cychwyn o Barc Morglawdd Caergybi.

TAITH 2: DYDD SUL 2 EBRILL 2023: Taith gerdded braslunio a gwib bywyd gwyllt o gwmpas ardal marina Caergybi gyda’r artist Christine Garwood a’r Tywysydd Caroline Bateson yn cychwyn o faes parcio Clwb Hwylio.

TAITH 3: DYDD GWENER 7 EBRILL 2023: Taith 3 – Dydd Gwener 15 Ebrill 2022: Taith gerdded stiwdio a thirwedd gyda’r Arweinydd Taith Kath Thomas yn cychwyn o faes parcio Priordy Penmon ac yn cysylltu stiwdios artistiaid cyfagos.

TAITH 4: DYDD SADWRN 8 EBRILL 2023: Taith gwneud ffilm ffôn smart gyda diddordeb lleol i Ynys Lawd ac yn ôl gyda’r gwneuthurwr ffilm Angharad Parry a’r Arweinydd Taith Kath Thomas yn cychwyn o Amgueddfa Morwrol Caergybi.

TAITH 5: DYDD LLUN 10 EBRILL 2023: Taith stiwdio a thirwedd gyda‘r Arweinydd Taith Kath Thomas yn cychwyn o faes parcio Castell Aberlleiniog ac yn cysylltu artistiaid yn ardal Llangoed gan gynnwys Plas Bodfa.

TAITH 6: DYDD IAU 13 EBRILL 2023: Dewch i ymuno â’r storiwr Gillian Brownson am dro i Rocky Coast a chlywed hanesion am greaduriaid môr ar y ffordd! Cychwyn am 10.30, 12.30, ac 14.30 o lyn Parc Morglawdd Caergybi.

TAITH 7: DYDD GWENER 14 EBRILL 2023: Taith braslunio gyda diddordeb mewn bywyd gwyllt o gwmpas Bae Cemaes gyda’r Tywysydd Caroline Bateson yn cychwyn o brif faes parcio Harbwr Cemaes.

Change to Open Studios Guide

Rhif 45 Mae Judith Donaghy yn sâl a bydd ar gau am weddill yr wythnos.

Mewngofnodi