Proffiliau Aelodau
Brynsiencyn
Wrth barhau gyda’m brwdfrydedd angerddol gyda phrintiau, byddaf yn mwynhau creu canfasau mawr gydag olewau yn yr haf. Bydd y gweithiau mawr a’r printiau’n cael eu harddangos yn ystod y Stiwdios Agored, yn ogystal â phortreadau collage diweddar.
2-6 Market Street
Caf fy ysbrydoli’n gyson gan yr amgylchedd naturiol gan ddarganfod prydferthwch yn y ffurfiau symlaf yn ogystal â’r tirweddau mwyaf dramatig. Rwyf yn hoff o arbrofi gyda amrywiol gyfryngau i fynegi gwead, lliw, naws ac awyrgylch boed hynny mewn paentiadau, ffotograffiaeth neu ddarnau crefft i ddehongli’r amgylchedd sydd o’m cwmpas.
Penmon
Mae fy ngwaith yn cynnwys morluniau a thirluniau sy’n lleol i Fôn a gogledd Cymru. Dw i’n gweithio mewn dyfrlliwiau ac olewau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Llanedwen
Mae fy ngwaith wedi datblygu mewn cylch: rydw i wedi ailddarganfod fy ngwreiddiau paentio ac rydw i’n creu paentiadau naratif ffigurol unwaith eto. Wrth gwrs, mae’r gwaith newydd hwn wedi cael ei ddylanwadau gan fy mhrofiad creadigol blaenorol ac rydw i’n mwynhau cynhyrchu gwaith fel hyn. Yn y paentiadau hyn, mae bywyd bob dydd yn ymgrwydro i dirweddau a lleoliadau cyfarwydd.
High Street
Paentiadau mewn olew o gefn gwlad ac arfordir hyfryd Ynys Môn.
Yn ogystal â dyddiau sydd ar agor yn ystod yr Wythnosau rydw i ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy apwyntiad ymlaen llaw.
Holyhead Road
Rwy’n newid rhwng peintio mewn olew a phaentio’n ddigidol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf rwy’n paentio’r golygfeydd nodweddiadol a’r awyrgylch Ynys Mon ac Eryri.
Ar agor trwy’r flwyddyn
Ucheldre Avenue
Mae fy nghelf yn cael ei ddylanwadu gan hanes /tirlun Cymru ac wedi ysbrydoli’r cymeriadau ffermio, Gwyn a Gwawr. Dw i’n credu’n gryf mewn pŵer comedi i godi’r ysbryd ac yn aml yn cynnwys hynny yn fy ngwaith.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Credaf mewn darlunio a phaentio o astudiaethau llyfr brasluniau ‘yn y fan a’r lle’ heb ddefnyddio cymorthyddion ffotograffaidd. Yn fy mhrofiad i, yr unig ffordd o ymrwymo testun i bapur neu gynfas gyda rhywfaint o deimlad o awyrgylch, symudiad a golau cyfnewidiol yw trwy fod yn bresennol yno’n cymryd amser i amsugno a mwynhau’r pwnc.
Tiwtor dawns hunangyflogedig sy’n byw ym Mhorthaethwy yw Helen, a gafodd ei hyfforddi mewn Addysg Dawns yn California yn 2001. Mae hi wedi bod yn rhoi gwersi ers 2002, ac mae’n cynnal dosbarthiadau a chyrsiau lleol wythnosol mewn Salsa, Burlesque, Hip Hop/Dawns Stryd a dawnsio Affricanaidd.
Mount Street
(English) Ffordd Penmynydd
(English) I am passionate about drawing and only work in dry media. My work focuses on figurative representation.
Penmon
Yma, mae paentio a chreu printiau a cherfluniau’n archwilio syniadau o gof, lle a’r hunaniaeth. Caiff perthynas delweddaeth â haniaeth ei phrofi. Weithiau caiff gwaith ei ysbrydoli gan destun neu farddoniaeth, a gall geiriau dethol ymwreiddio o fewn ei wead, gan ffurfio ‘gronyn’ neu ‘weddill’; mae prosesau gweithio’n dod yn drosiad o’r cof.
14 Stanley Street
Arlunydd proffesiynol yw Jacquie sydd wedi’i lleoli yn ‘ArtSpace’ yng Nghaergybi. Mae’n gweithio fel tiwtor gydag oedolion a phlant ac ar hyn gyda ‘Mind’ a Digartref
Ynys Môn ar brosiectau celf cymunedol yn ogystal a chynnal gweithdai celf i blant yng Nghanofan Ucheldre.
Hoffai Andrew Agace, Fernke van Gent a Mary Wilson eich gwahodd chi i weld a chymryd rhan mewn casgliad o weithiau, sy’n cynnwys paentiadau, darluniadau a pherfformiad. Mae croeso i bawb ohonoch i’r digwyddiad pedwar diwrnod hwn.
Llandyfrydog
Trwy fy ngwaith rydw i wedi ceisio dangos nad cywirdeb manwl yw’r gwirionedd. Mae ynni cudd o fewn yr holl wrthrychau, pobl a lleoedd na all ffotograff ei ddal. Rydw i wedi archwilio’r cysyniad hwn yn my arddangosfeydd, yn fwyaf amlwg yn yr Academi Frenhinol Gymreig lle’r wyf yn ddiweddar wedi dod yr aelod ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru a gweithio o dan nawdd y Tywysog Charles.