Proffiliau Aelodau
Llandegfan
Arlunydd yw Jasmine sy’n canolbwyntio’n bennaf ar baentio anifeiliaid, yn enwedig ceffylau. Gan weithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, mae hi’n ymdrechu i ddal prydferthwch, ysbryd ac ysblander y ceffyl a ddarlunia. Mae hefyd yn paentio portreadau o anifeiliaid anwes, da byw a golygfeydd gwledig/amaethyddol. Mae gwaith celf gwreiddiol wedi ei gomisiynu a rhai printiau nifer cyfyngedig ar gael.
Daw fy ysbrydolaeth o liw yn hytrach nag o’r gwrthrych. Rwyf yn paentio, gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, yn gwneud gemwaith mwclis ac yn gweithio gyda phaent, gwydr dichroic, mosaic, ffabrig sidan, cŵyr (ymlosgol), tywod, a polystyrene. Rwyf yn mwynhau arbrofi ac ar hyn o bryd rwyf yn gweithio ar ddarluniau am droell fwclis.
Arlunydd sydd wedi dysgu fy hun ydw i, sy’n cymysgu’r haniaeth gynrychioliadol o liw, a’r elfennau gweadog i greu darn unigryw o waith a fydd yn dod yn ganolbwynt ac yn destun trafod pan gaiff ei arddangos. Roedd lleoliadau fy arddangosfeydd y llynedd yn cynnwys Arddangosfa Agored yr Academi Freninol Gymreig yng Nghonwy, Amgueddfa Gwynedd a Chanolfan Ucheldre. Galwch i mewn am baned.
Llangoed
Dw i’n gweithio mewn arddull graffeg gan ddefnyddio ystod eang o ddefnyddiau.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Porth Y Felin
Mae fy stiwdio wedi’i lleoli yn yr ardd a dyna lle rydw i’n gweithio ac yn arddangos fy nghelf. Rwy’n paentio tirluniau o Ynys Môn a Gwynedd mewn acrylig, olew a dyfrlliw a minnau hefyd yn ymgymryd â chomisiynau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Dothan
Dros 30 mlynedd fel ennillydd gwobrau artist tecstiliau a chynllunydd. Rwyf yn cael fy ysbrydoli gan arfordir a thir gyda naws cyfoes. Peintiadau sidan a gwaith celf appliqué, printiadau cyfyngedig ac agored, cardiau, mygiau a chôsteri.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Tynygongle
Arfordiroedd ac awyr ym mhob tywydd wedi eu paentio mewn olewau ac fel arfer ar y traeth. Mae pobl a phortreadau hefyd o ddiddordeb imi, yn enwedig wedi eu paentio’n fyw. Dewch i weld!
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Mynydd Bodafon
Rwyf wrth fy modd yn cerfio carreg er gwaethaf y ffaith ei fod yn gyfrwng araf a chaled. Teimlaf y dylai cerfiadau carreg gynnig profiad gweledol a chyffyrddol. Mae’r ysbrydoliaeth i’m gwaith yn naturiaethol i raddau helaeth ac efallai ei fod yn dod o’r garreg ei hun cyn ei thorri, neu o ddelweddau a welaf wrth gerdded o gwmpas Môn.
Millbank
Cynhelir Grŵp Portreadu yn Ucheldre ar 21/4/ 22 (10yb – 1yp). Mae Stiwdio Pen y Braich, Llandderfel, Bala,
LL23 7PY ar agor drwy’r flwyddyn. Cysylltwch i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda. Byddaf bob amser yn brwydro gydag anawsterau technegol i fynegi syniadau – mae pob pwnc yn bosib.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Mae gwaith John yn ymgais i egluro’r byd o’i cwmpas. Mae gwaith Janet yn archwilio bydoedd mewnol ac allanol. Bydden nhw’n arddangos delweddau wedi’u paentio, printiau, tecstilau, ffotograffau, cerameg a dodref n.
Yn ogystal â dyddiau sydd ar agor yn ystod yr Wythnosau rydw i ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy apwyntiad ymlaen llaw.
Llanfaelog
Cipolwg o fywyd o fewn ac o gwmpas ynys hardd Môn, sy’n cynnwys ymwelwyr, bywyd gwyllt, y bensaernïaeth a golygfeydd rhyfeddol a gai eu darlunio mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, printiau, DVDs a gemwaith.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
High Street
Fel person newydd-ddyfodiad i beintio, rydw i wrth fy modd yn archwili’r golygfeydd newidiol cyson yng Ngogledd Cymru drwy’r arddull anrhagweladwy
o ddefnyddio dyfrliw. Mae golygfeydd y moroedd anferthol a’r mynyddoedd yn ddramatic ac yn gysurus ar y cyd, ac mae’r chwiw a’r syndod yn y manylion bach.
Ar agor trwy’r flwyddyn
Artist proffesiynol, dylunydd a darlithydd coleg ers 1962. Wedi gweithio yn Japan yng nghanol yr 1960au. Uwch-ddarlithydd yn y Central Saint Martins tan 2005. Aelod o Academi Cambria. I’w weld mewn gardd â mynediad hawdd iddi: printiau, cerflunwaith, llyfrau brasluniau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
High Street
Mae AOS yn rhoi cyfle i mi chwarae gyda ffotograffiaeth yn hytrach na dilyn briff. Eleni
dwi’n troi’n 60. Rwyf yn defnyddio ffotograffiaeth i fynegi sut dwi’n teimlo am hyn. Bydd prosiectau o flynyddoedd blaenorol yn cael eu harddangos hefyd.
Agored drwy’r flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw.
Mae fy paentiadau wedi eu gwreiddio yn cymeriad tirlun ac adeiladau yr ardal. Mae nhw wedi selio ar brasluniau
a wnaed yn y man a’r lle mewn pensal, siarcol, dyfrliw, acrylig a cyfryngau cymusg.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.