Proffiliau Aelodau

Arlunydd sydd wedi dysgu fy hun ydw i, sy’n cymysgu’r haniaeth gynrychioliadol o liw, a’r elfennau gweadog i greu darn unigryw o waith a fydd yn dod yn ganolbwynt ac yn destun trafod pan gaiff ei arddangos. Roedd lleoliadau fy arddangosfeydd y llynedd yn cynnwys Arddangosfa Agored yr Academi Freninol Gymreig yng Nghonwy, Amgueddfa Gwynedd a Chanolfan Ucheldre. Galwch i mewn am baned.

Llangoed
Dw i’n gweithio mewn arddull graffeg gan ddefnyddio ystod eang o ddefnyddiau.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Porth Y Felin
Mae fy stiwdio’n meddiannu dwy ystafell yn fy nghartref, sef oriel a gweithdy stiwdio ac mae’n agored yn ystod y Pasg a thrwy drefniant. Dw i’n paentio tirluniau Môn a Gwynedd yn bennaf mewn acrylig, olew a dyfrlliw.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Dothan
Dros 30 mlynedd fel ennillydd gwobrau artist tecstiliau a chynllunydd. Rwyf yn cael fy ysbrydoli gan arfordir a thir gyda naws cyfoes. Peintiadau sidan a gwaith celf appliqué, printiadau cyfyngedig ac agored, cardiau, mygiau a chôsteri.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Tynygongle
Arfordiroedd ac awyr ym mhob tywydd wedi eu paentio mewn olewau ac fel arfer ar y traeth. Mae pobl a phortreadau hefyd o ddiddordeb imi, yn enwedig wedi eu paentio’n fyw. Dewch i weld!
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Mynydd Bodafon
Rwyf wrth fy modd yn cerfio carreg er gwaethaf y ffaith ei fod yn gyfrwng araf a chaled. Teimlaf y dylai cerfiadau carreg gynnig profiad gweledol a chyffyrddol. Mae’r ysbrydoliaeth i’m gwaith yn naturiaethol i raddau helaeth ac efallai ei fod yn dod o’r garreg ei hun cyn ei thorri, neu o ddelweddau a welaf wrth gerdded o gwmpas Môn.

Millbank
Cynhelir Grŵp Portreadu yn Ucheldre ar 21/4/ 22 (10yb – 1yp). Mae Stiwdio Pen y Braich, Llandderfel, Bala,
LL23 7PY ar agor drwy’r flwyddyn. Cysylltwch i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda. Byddaf bob amser yn brwydro gydag anawsterau technegol i fynegi syniadau – mae pob pwnc yn bosib.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Llanfaelog
Cipolwg o fywyd o fewn ac o gwmpas ynys hardd Môn, sy’n cynnwys ymwelwyr, bywyd gwyllt, y bensaernïaeth a golygfeydd rhyfeddol a gai eu darlunio mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, printiau, DVDs a gemwaith.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Artist proffesiynol, dylunydd a darlithydd coleg ers 1962. Wedi gweithio yn Japan yng nghanol yr 1960au. Uwch-ddarlithydd yn y Central Saint Martins tan 2005. Aelod o Academi Cambria. I’w weld mewn gardd â mynediad hawdd iddi: printiau, cerflunwaith, llyfrau brasluniau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

High Street
Dw i’n mwynhau’r cyfle i ymgolli mewn prosiect creadigol yn benodol ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn. Dw i’n parhau i chwilio am ddull boddhaol o gyfuno ffotograffiaeth a gwniadwaith.

Mae fy paentiadau wedi eu gwreiddio yn cymeriad tirlun ac adeiladau yr ardal. Mae nhw wedi selio ar brasluniau
a wnaed yn y man a’r lle mewn pensal, siarcol, dyfrliw, acrylig a cyfryngau cymusg.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Mae Steven yn arbenigo mewn golygfeydd arfordirol. Gellir prynu cardiau cyfarch, printiau, paentiadau olew gwreiddiol a’r llyfr Llwybr Arfordir Môn gan yr oriel neu trwy’r wefan. Y noson agoriadol ar gyfer paentiadau newydd yn nos Wener 6 Ebrill, 7-9pm.

Glanrafon
Cefais fy magu ym Mhorthaethwy ac astudiais yn Lerpwl, Chelsea a’r RCA. Bûm yn gweithio fel darlunydd ac uwch ddarlithydd mewn colegau celf ac fel cyfarwyddwr
celf y cylchgrawn Raw Vision. Dw i’n paentio ar lechen, gan greu tirluniau a gemwaith wedi eu hysbrydoli gan Gymreictod.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Fel artist amlddisgyblaethol sy’s byw yn Llangoed, Biwmares, ceisiaf ddal harddwch ein hynys, y moroedd a’r mynyddoedd y tu hwnt mewn amrywiaeth o ffurfiau. Arbrofaf gyda’r defnydd o liw, gwead, goleuni ac ychydig o ddigrifwch i greu fy nghelfyddyd.

Pan fyddaf yn tynnu llinell mae edrych a gweithredu’n rhyngweithio â’i gilydd, gyda’r llinell yn amgáu, torri i ffwrdd neu rannu. Dro arall fyddaf yn sgriblo cyfaint nes y dof i’r ymyl lle mae’r ddelwedd yn disgyn i’r bydysawd. Caiff y sgribliadau eu gwneud yn anymwybodol, ni allant ddweud celwydd, ni allant fod yn anghywir, ond maent yn fy nhynnu i mewn, yn ffurfio adeiladwaith – a gwneud synnwyr.