Proffiliau Aelodau
New Street
‘Taith’ – Mae lliw yn holl bwysig ac yn wastad wedi bod wrth wraidd gwaith Lyn ac yn cael ei ddathlu ynddo. Ochr yn ochr â gwneud marciau mae’n un o’r elfennau sy’n fynegol yn ei rinwedd ei hun yn creu naws benodol , bwriad ac ystyr.
Paentiadau olew arallfydol o forlin Ynys Môn. Darluniau mewn llyfrau plant. Mae Jane wedi arddangos yn Oriel Ynys Môn, Galeri Caernarfon, ac Academi Frenhinol Gymreig.Llyfrau wedi eu darlunio gan Jane ar gael ar www.gomer.co.uk
Brynddu
Sgyrsiau am ynni niwclear, newid hinsawdd a’r anthroposen drwy waith arbrofol yn bennaf ar ffurf ffotograffiaeth neu lyfrau.
Rating Row
(English) Our Saturday morning workshops help young people to develop communication and theatre skills within a friendly and supportive environment. Using voice, movement, improvisation, mime and script work, to build confidence and encourage teamwork, our members also enjoy considerable success within annual LAMDA exams.
High Street
Ffotograffiaeth stryd o Fôn ac o amgylch y byd.
Penmon
Mae cymaint o ysbrydoliaeth ar fy ngharreg drws gyda’r holl olygfeydd hardd, er hyn mae llawer o ysbrydoliaeth hefyd yn dod o ddarn o ffabrig. Mae fy ngwaith yn defnyddio tecstilau wedi eu hailgylchu. Mae pob darn yn wreiddiol ac yn hollol unigryw.
Agored drwy’r flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw.
Llandegfan
Artist a Dylunydd. Paentio tirluniau ac adeiladau yn
eu hamgylchedd naturiol. Darlunydd pensaernîol o
dai modern a hynafol. Gweithio tuag at arddangosfa o
luniadau a phaentiadau pensaernïol o dref Biwmares.
Llandegfan
Gwneuthurwr printiau a phaentiwr celfyddyd gain sy’n gweithio ar hyn o bryd ar gyfres o ddelweddau seiliedig ar goed a daeareg. Mae’r printiau lliw 4-plât yn gyfuniad o carborundum a photopolymer. Mae’r paentiadau diweddar ar ddarnau siapiau organig o bren.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Llandyfrydog
Mae fy null gweithio’n canolbwyntio ar ddiraddio, siawns ac anghyfannedd. Mae nodweddion fel pydredd, goleuni, graffiti hanesyddol a manylion ymylol yn aros yn onest a heb eu cyffwrdd. Mae diddordebau mewn lliw a hen ddiwylliannau’n cyfuno i greu dylanwad cefndirol ar fy ngwaith, boed mewn tynnu lluniau o ddiffeithdra neu natur yn pydru neu baentiadau mawr ar ddeunyddiau y cafwyd hyd iddynt.
Mae llif, haenau, siawns a chwarae yn gysyniadau sy’n gynhenid i’m gwaith, ac ar lefel fwy gwibiog, yr aruchel, llonyddwch mewn symud, agosrwydd mewn pellter, paradocs tawelwch.
Dw i’n gweithio gyda ffotograffiaeth, technoleg a deunyddiau. Mae gen i ddiddordeb yn y byd naturiol, gan gynnwys ni’n hunain, a’r effaith mae technoleg yn ei gael ar ein bywydau. Byddaf yn rhannu fy stiwdio agored gyda Liesbeth Williams.
Bob blwyddyn mae Ysgol Uwchradd Caergybi’n perfformio sioe gerdd. Mae disgyblion trwy’r holl ysgol yn cymryd rhan a hefyd yn helpu gyda’r band, y tu ôl i’r llwyfan, gwisgoedd a cholur, golau a sain. Eleni, y cynhyrchiad yw’r sioe hynod boblogaidd Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat.
Mountain
Mae gan fy ngwaith sail eang o ran testunau. Byddaf, trwy arsylwi, yn peintio’r ffigur dynol, y tirlun mynyddig, coed, creigiau, morluniau, rhaeadrau a blodau. Defnyddiaf ddyfrlliwiau, olewau, acrylig, inciau, collage a chyfryngau cymysg i greu peintiadau anarferol o bobl, gwisgoedd, atgofion, breuddwydion, bywyd llonydd, haniaethol, dehongliadau o leoedd a barddoniaeth.
Rwyf yn darlunio storïau, barddoniaeth, a phenillion digrif mewn pastelau, 3D, pin ac inc. Trosglwyddir y delweddau hyn ar CD gydag adroddiad i greu sioe sleidiau gydag effeithiau sain. Maent yr un mor addas ar gyfer darlunio llyfrau.
Dwi’n pleseru mewn sylwi pethau beunyddiol syml, y storiau sy’n chwarae allan o’mlaen, drychmygol neu beidio, tra dwi, yn fy ‘nhwrn yn edrych or tu allan yn ddisylw. I’r sylwedydd damweiniol, faswn yn hoffi meddwl bod fy ’ngwaith yn taro ar gyflwr dynoliaeth mewn rhyw ffordd bach.