Proffiliau Aelodau

Llandegfan
Artist a Dylunydd. Paentio tirluniau ac adeiladau yn
eu hamgylchedd naturiol. Darlunydd pensaernîol o
dai modern a hynafol. Gweithio tuag at arddangosfa o
luniadau a phaentiadau pensaernïol o dref Biwmares.

Llandegfan
Gwneuthurwr printiau a phaentiwr celfyddyd gain sy’n gweithio ar hyn o bryd ar gyfres o ddelweddau seiliedig ar goed a daeareg. Mae’r printiau lliw 4-plât yn gyfuniad o carborundum a photopolymer. Mae’r paentiadau diweddar ar ddarnau siapiau organig o bren.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Llandyfrydog
Mae fy null gweithio’n canolbwyntio ar ddiraddio, siawns ac anghyfannedd. Mae nodweddion fel pydredd, goleuni, graffiti hanesyddol a manylion ymylol yn aros yn onest a heb eu cyffwrdd. Mae diddordebau mewn lliw a hen ddiwylliannau’n cyfuno i greu dylanwad cefndirol ar fy ngwaith, boed mewn tynnu lluniau o ddiffeithdra neu natur yn pydru neu baentiadau mawr ar ddeunyddiau y cafwyd hyd iddynt.

Mae llif, haenau, siawns a chwarae yn gysyniadau sy’n gynhenid i’m gwaith, ac ar lefel fwy gwibiog, yr aruchel, llonyddwch mewn symud, agosrwydd mewn pellter, paradocs tawelwch.

Dw i’n gweithio gyda ffotograffiaeth, technoleg a deunyddiau. Mae gen i ddiddordeb yn y byd naturiol, gan gynnwys ni’n hunain, a’r effaith mae technoleg yn ei gael ar ein bywydau. Byddaf yn rhannu fy stiwdio agored gyda Liesbeth Williams.
Bob blwyddyn mae Ysgol Uwchradd Caergybi’n perfformio sioe gerdd. Mae disgyblion trwy’r holl ysgol yn cymryd rhan a hefyd yn helpu gyda’r band, y tu ôl i’r llwyfan, gwisgoedd a cholur, golau a sain. Eleni, y cynhyrchiad yw’r sioe hynod boblogaidd Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat.

Mountain
Mae gan fy ngwaith sail eang o ran testunau. Byddaf, trwy arsylwi, yn peintio’r ffigur dynol, y tirlun mynyddig, coed, creigiau, morluniau, rhaeadrau a blodau. Defnyddiaf ddyfrlliwiau, olewau, acrylig, inciau, collage a chyfryngau cymysg i greu peintiadau anarferol o bobl, gwisgoedd, atgofion, breuddwydion, bywyd llonydd, haniaethol, dehongliadau o leoedd a barddoniaeth.

Rwyf yn darlunio storïau, barddoniaeth, a phenillion digrif mewn pastelau, 3D, pin ac inc. Trosglwyddir y delweddau hyn ar CD gydag adroddiad i greu sioe sleidiau gydag effeithiau sain. Maent yr un mor addas ar gyfer darlunio llyfrau.

Dwi’n pleseru mewn sylwi pethau beunyddiol syml, y storiau sy’n chwarae allan o’mlaen, drychmygol neu beidio, tra dwi, yn fy ‘nhwrn yn edrych or tu allan yn ddisylw. I’r sylwedydd damweiniol, faswn yn hoffi meddwl bod fy ’ngwaith yn taro ar gyflwr dynoliaeth mewn rhyw ffordd bach.

Llandegfan
Arlunydd yw Jasmine sy’n canolbwyntio’n bennaf ar baentio anifeiliaid, yn enwedig ceffylau. Gan weithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, mae hi’n ymdrechu i ddal prydferthwch, ysbryd ac ysblander y ceffyl a ddarlunia. Mae hefyd yn paentio portreadau o anifeiliaid anwes, da byw a golygfeydd gwledig/amaethyddol. Mae gwaith celf gwreiddiol wedi ei gomisiynu a rhai printiau nifer cyfyngedig ar gael.

Daw fy ysbrydolaeth o liw yn hytrach nag o’r gwrthrych. Rwyf yn paentio, gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, yn gwneud gemwaith mwclis ac yn gweithio gyda phaent, gwydr dichroic, mosaic, ffabrig sidan, cŵyr (ymlosgol), tywod, a polystyrene. Rwyf yn mwynhau arbrofi ac ar hyn o bryd rwyf yn gweithio ar ddarluniau am droell fwclis.

Arlunydd sydd wedi dysgu fy hun ydw i, sy’n cymysgu’r haniaeth gynrychioliadol o liw, a’r elfennau gweadog i greu darn unigryw o waith a fydd yn dod yn ganolbwynt ac yn destun trafod pan gaiff ei arddangos. Roedd lleoliadau fy arddangosfeydd y llynedd yn cynnwys Arddangosfa Agored yr Academi Freninol Gymreig yng Nghonwy, Amgueddfa Gwynedd a Chanolfan Ucheldre. Galwch i mewn am baned.

Llangoed
Dw i’n gweithio mewn arddull graffeg gan ddefnyddio ystod eang o ddefnyddiau.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Porth Y Felin
Mae fy stiwdio’n meddiannu dwy ystafell yn fy nghartref, sef oriel a gweithdy stiwdio ac mae’n agored yn ystod y Pasg a thrwy drefniant. Dw i’n paentio tirluniau Môn a Gwynedd yn bennaf mewn acrylig, olew a dyfrlliw.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Millbank
Dros 30 mlynedd fel ennillydd gwobrau artist tecstiliau a chynllunydd. Rwyf yn cael fy ysbrydoli gan arfordir a thir gyda naws cyfoes. Peintiadau sidan a gwaith celf appliqué, printiadau cyfyngedig ac agored, cardiau, mygiau a chôsteri.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.