Proffiliau Aelodau


Millbank
Arlunydd o Fôn yw Tim Dickinson sy’n cynhyrchu delweddau hynod emosiynol a meddylgar sy’n archwilio ochr dywyllach emosiwn dynol a’r cyflwr dynol. Ambell dro mae hefyd yn defnyddio’i arddull tywyll i gynhyrchu creaduriaid bach anarferol a hoffus.

Trearddur Bay
Dw i’n paentio, lluniadu ac argraffu er mwyn archwilio syniadau a chysyniadau sy’n ymwneud â sut rydym yn portreadu ac yn canfod y byd o’n cwmpas trwy gyfrwng celf.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Bangor Road
Tirluniau a morluniau lleol wedi eu dal mewn gwlân.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Ty Croes
Tirluniau, Morluniau a gwaith lled-haniaethol o brydferthwch Ynys Môn sy’n cael eu peintio mewn olew cyfoethog synhwyrus gyda chyllill a brwshys ar gynfas. Gellir cael hyd i’r rhain ynghyd â fy mheintiadau bach o flodau mewn galeriau yng Nghymru a Lloegr.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Bridge Street
Thema waelodol fy ngwaith yw rhythmau’r byd naturiol. Defnyddiaf collage, inciau a darluniau i fynegi hanfod y pethau sy’n bresennol a haenau’r gorffennol. Rwyf wedyn yn ailddiffinio agweddau haniaethol y tirwedd yn glyffau a thotemau o le.

Ers nifer a flynyddoedd, dw i wedi bod yn archwilio wynebau a gerfiwyd ar lechi a cherrig beddau’r 18fed ganrif – mae gen i gasgliad o dros 100 o luniau. Mae’r blynyddoedd yn cuddio’r beddau â chen a phridd, maent yn hollti ac yn erydu ond yn parhau i gynnig golwg ôl drwy’r canrifoedd – ac i fy hudo. Mae fy ngwaith yh gwneud defnydd o haenau; mae fy nghynfosau yn cofnodi hanes sydd wedi’i wreiddio yn y ddaeor ac maent fel pe baent yn gorchuddio neu’n dadorchuddio’r gorffenol.

Station Road
Rwyf yn artist morol – hynny yw mae’r rhan fwyaf o’m gwaith yn cynnwys themâu morol neu ddeunydd pwnc o ail-greadau hanesyddol, stêm, mordwyo ac yn y blaen, ond rwyf hefyd yn tueddu tuag at dirluniau arfordirol a rhai tirweddau yn gyffredinol. Rwy’n gweithio mewn olew, dyfrlliwiau, inc a pheth pastelau. Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos yn y Royal Society of Marine Artists yn Llundain. Mae arddangosfeydd hefyd yn Lerpwl ac wrth gwrs ar Ynys Môn.

Millbank
Mae fy nghelfyddyd ffotograffiaeth a’m celfyddyd pren yn ffurf o ryddhad a therapi.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Druid Road
Yn draddodiadol defnyddir y dull printio Gyotaku i ddarlunio pysgod. Mae’n cyfieithu i “rhwbio pysgod”. Dw i’n gwneud printiadau Gyotaku gan ddefnyddio rhywogaethau botaneg mor lleol lle’n bosib. Mae pob printiad yn waith llaw ac yn unigryw.
Agored drwy’r flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw.

Arddangosfa o baentiadau a llyfrau brasluniau’n dangos ffurfiau a strwythurau naturiol a grewyd gan wead caeau muriog, ffurfiadau craig hynafol gyda morluniau o glogwyni dramatig a systemau o dwyni tywod. Mae awyrgylchoedd sy’n newid yn barhaus yn rhoi her a symbyliada.

20 Castle Street
Dw i’n cynhyrchu amrywiaeth o emwaith aur ac arian yn fy stiwdio a galeri. Byddaf hefyd yn gwerthu gwaith dros 30 o gynllunwyr gemwaith annibynnol.

6 Church Street
Dw i wedi bod yn gwneud potiau, yn arddangos ac yn gwerthu ledled y wlad ers rhai blynyddoedd. Byddaf yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i wneud darnau domestig, addurniadol a cherfluniol. Byddaf yn peintio gydag olew ac acrylig yn ogystal.
Ar agor trwy’r flwyddyn

6 Church Street
Dw i’n peintio’r byd naturiol mewn olew, acrylig a dyfrlliw gyda rhoi sylw penodol ar siâp a symudiad. Byddaf yn creu printiadau dylunio arwynebol o’r gwaith gwreiddiol a’u trosglwyddo ar ddeunydd, serameg, cardiau cyfarch a chynnyrch arall sydd ar werth yn fy siop .
Ar agor trwy’r flwyddyn