Proffiliau Aelodau
Mae Caffi Siop Mechell wedi ennill tir ledled yr ynysenw da am ei arddangosfeydd chwarterol o leol artistiaid ochr yn ochr â bwyd rhagorol, cyfeillgar awyrgylch a siop grefftau. Mae Jane Evans yn dangos ei phrintiau Gyotaku.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw
Ar ôl rhedeg oriel gelf am 9 mlynedd, rwyf wedi caniatáu imi fy hun y cyfle i chwarae. Mae lloffa’r traethau’n cynnig posibiliadau diderfyn. Rwyf yn defnyddio darnau sydd wedi eu gwisgo gan y môr o lechi, metel rhydlyd a china, gan arwain at gerfluniau, mosaic ac animeiddio a hefyd osodiad a gafodd ei ysbrydoli gan ddymchwel siediau’r cychwyr yn Gallows Point, Biwmares.
Penmon
Mae Susanna a Phil Callaghan yn artistiaid mewn pren: yn troi a cherflunio pren caled o ffynonellau lleol yn siapiau organig wedi’u hysbrydoli gan fywyd gwyllt, cefn gwlad a’r môr.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Grŵp o artistiaid sy’n hoffi mynegi eu hunain trwy amrywiaeth o gyfryngau, ond sydd eto’n cael hyd i dir cyffredin mewn estheteg ac arddull. Sevan Nigogosian, Mick Brown, Chris Higson, Gethin Wavel, Sadie Williams.
Eleni maent wedi symud o’r stablau i’r prif le arddangos yn Oriel Ynys Môn.
Chapel Street
Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn Ynys Môn a Saddleworth yn y Pennines ac yn cael fy ysbrydoli gan y dirwedd hardd o’m cwmpas.
Rwy’n aelod o Grŵp Celf Saddleworth, gweithdy West Yorkshire Print a hefyd yn paentio’n flynyddol gyda Grŵp Rhyngwladol Plein Aire
artistiaid -Les Journees des peintures.
Rwy’n gweithio mewn sawl cyfrwng gwahanol yn cael hwyl yn arbrofi mewn cyfryngau cymysg – olew; dyfrlliw; acrylig; siarcol a thechnegau ysgythru ac argraffu amrywiol.
Longford Road
(English) I love painting, the thrill of turning a blank white canvas into something unique, the way time just flies by while I’m painting and the joyness I feel when I get complimented on or sell my work. I use acrylic on canvas and prefer painting large paintings. I am happiest painting people but often get commissions for pet portraits and houses.
Rating Row
Gwaith grŵp o photograffwyr sydd yn aelodau o glybiau yn Gogledd Cymru. Bydd gwaith pawb yn wahanol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Yn ystod yr Wythnosau Stiwdios Agored mae’r Fforwm Gelf yn arddangos o leiaf un darn o waith gan bob un o’r artistiaid sy’n cymryd rhan. Cyfle i weld pa stiwdios yr hoffech ymweld â nhw ac i gael gwybodaeth a chyngor pellach.
Millbank
Mae Ucheldre yn rhaglennu digwyddiadau, cyngherddau, ffilmiau, darllediadau lloeren, arddangosfeydd, cymdeithasau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn mae’n arddangos gwaith gan artistiaid sy’n cymryd rhan, ynghyd â gweithdai.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Rwyf yn mwynhau amrywio fy ngwaith artistig rhwng dal harddwch Môn mewn paentiadau traddodiadol a 2/3D. Darnau o gelfyddyd gain mewn amrywiaeth o ddeunyddiau, sy’n seiliedig ar gysyniadau’n cynnwys biodechnoleg. Rwyf hefyd yn emydd ac yn gweithio ar gyfresi newydd o ddarnau arian. Mae arfordir Môn yn ysbrydoli llawer o’m gwaith.
(English) The Castle Players Amateur Dramatic Society is a registered charity based in Beaumaris, dedicated to bringing theatre and the arts to the community of South-East Anglesey. We produce three productions each year and welcome new members at any time. Rehearsals take place twice a week, with extra sessions as required for performances. Plays/pantomimes are performed in Beaumaris Town Hall. Follow us on social media- FB Page – The Castle Players ADS and Twitter – @castle_Players.
Ticket sales and further information from the website and online box office at: http://castleplayersbeaumaris.org.uk/
Rydym yn chwarae ar sail elusennol, ni fyddwn yn codi ffi ond byddwn yn derbyn cyfraniadau ar gyfer talu costau. Rydym wedi chwarae mewn hosbisau (Biwmares, Caernarfon), cartrefi hen bobl, garddwestai (Rotari, Plas Newydd) gwasanaethau carolau, i’r W.I, yn Oriel Ynys Môn ac ati.
Ymateb personol i’r cyfan sy’n ei hamgylchynu ni gan ddefnyddio amrywiol gyfryngau paentio. Taith, ysgogol, bleserus a rhwystredig – a ydym bron â chyrraedd?
Rwyf yn weddol newydd i fyd celf ac rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar dorri fy nghwys fy hun wrth ddatblygu fy arddull fy hun. Rwyf yn paentio gyda theimlad ac yn ddigymell gan gofleidio’r broses greadigol o fynegiant haniaethol yn ogystal â datblygu fy hoffter o collage a gwneud printiau.
Mae fy agwedd tuag at fy ngwaith wedi dod yn fwy sensitif o’r hyn yr ydw i’n ei wneud a pham yr ydw i’n ei wneud. O ganlyniad, rydw i’n defnyddio deunyddiau lleol – yn glai, mwynau, ocsidau a lludw pren – yn fy slipiau a’m gwydredd. Mae gwydredd hallt fel petai’n pwysleisio ac yn ategu natur rhywfaint yn anwadal y deunyddiau amrwd hyn.