Proffiliau Aelodau

Millbank
Artist, cynllunydd, awdur, athrawes, darlithydd prifysgol, merch busnes a chantores! Mae Grace yn cyfuno ei ffydd a’r chreadigrwydd i greu ystod eang o brintiadau, cardiau, anrhegion ac offer cartref. Mae ei gwaith yn aml-gyfrwng.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw

Rhoscefnhir
Stiwdio agored ac arddangosfa o waith diweddar. Eleni cynigiaf amryw o ddosbarthiadau astudio mewn “Olew fel cyfrwng paentio”. Mae’r rhain wedi eu hanelu at ddechreuwyr a phaentwyr profiadol, a chan weithio mewn grwpiau o dri, fe fydd pob dosbarth yn datblygu eu lluniau dros dri diwrnod o weithgarwch trylwyr iawn. Gobeithiaf y byddwn yn ysbrydoli’n gilydd ac yn cael hwyl! Gofynnwch am fanylion os gwelwch yn dda.

Llaingoch
Dw i’n creu cerfluniau anifeiliaid unigryw mewn helygen ar gyfer yr ardd a’r cartref. Enghreifftiau o waith anifeiliaid domestig a gwyllt, adar a darnau unigryw pensaerniol. Byddaf yn gweithio ar gomisiwn. Mae fy ngwaith i’w weld mwn mannau preifat a chyhoeddus, atynfeydd twristaidd a chartrefi mawreddog.
Ar agor ar adegau eraill drwy gydol y flwyddyn drwy apwyntiad ymlaen llaw.

Fideo, cerflunwaith, cyanotopes a ffotograffau ar thema atomfa’r Wylfa. Arddangosfa grŵp o sgriniadau a gweithiau sydd ar y gweill ar gyfer yr arddangosfa deithiol Pŵer yn y Tir sydd yn Oriel Davies, y Drenewydd, ar hyn o bryd

Mae’r dosbarth dechreuwyr yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd eisiau rhywfaint o ymarfer mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar, a dysgu rhywfaint o symudiadau sylfaenol bol ddawnsio. Mae’r dosbarth gwella ar gyfer pobl sydd eisiau symud ymlaen a datblygu eu hunain fel dawnswyr.

Mae Cath wedi mwynhau ei hun yn meistroli Zumba ers dechrau 2011 ac mae hi bellach yn hyfforddwraig gymwysedig sy’n dod â dosbarthiadau cyffrous i bob rhan o Fôn. Mi fyddwch chi’n sicr o gael digon o hwyl a gwaith caled yn y sesiynau Zumba!

Mae Emily Bratherton yn hyfforddwraig Zumba gymwysedig sy’n cynnal dosbarthiadau yng Nghaergybi a Bodedern yn ogystal â’i ddysgu o fewn ysgolion.