Proffiliau Aelodau

Llanfaelog
Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n bennaf i bortreadu’r diwydiant mwyngloddio glo, a thirweddau diwydiannol lle bûm i’n gweithio am rai blynyddoedd. Rwyf bellach yn mwynhau cynhyrchu tirluniau a morluniau, gan weithio mewn olewau ar ganfas neu ysgrifbin ac inc.

Llangoed
Dw i’n grochenydd sy’n gwneud potiau a phlatiau lliwgar i’w defnyddio ar bwrdd cinio. Dw i’n mwynhau anwadalwch y broses danio, lle mae diffyg rheolaeth lawn o drawsnewidiad y clai a’r gwydreddau yn dod â bywiogrwydd i’r darn.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Dulas
Mae Tyddyn Môn, elusen sy’n helpu oedolion ag Anableddau Dysgu ym Môn, yn cynnig cyfleusterau gwneud crochenwaith a hyfforddiant ar eu fferm ger Amlwch. Gwahoddir chi i weld crochenwaith Richard Daniels a gwaith y rhai a hyfforddir yno.

Cwmni theatre ensemble bychan sy’n sownd i Ganolfan Ucheldre. Wedi’i sefydlu dros ddeg mlynedd yn ôl mae’n cynhyrchu 2-3 cynhyrchiad Saesneg y flwyddyn. Croesawir talentau newydd bob amser, does dim angen profiad blaenorol arnoch.

Rhosybol
Ffotograffydd tirluniau sydd wedi cael ei waith ar BBC yn ddiweddar. Ers cychwyn y busnes yn 2018 dw i wedi cael sylw anhygoel gan y cyhoedd, yn anfon fy ngwaith dros y byd. Dw i’n teimlo’n angerddol mod i eisiau rhannu’r prydferthwch sydd o’n hamgylch.
Ar agor trwy’r flwyddyn

Y cyntaf mewn Stiwdios Agored ac yn edrych ymlaen ac fod yn rhan o’r prosiect. Dw i wedi cael fy ysbrydoli gandirwedd byd natura a phobi Ynys Mon. Dw i’n mwynhau gweithio a phob mathau o gyfryngau. Ar hyn o bryd, mae i’n well gen i weithio â dyfrilliw, pastel ac inc.

Artist tecstilau yw Suzy Walsh sy’n cynnal gweithdai a dosbarthiadau rheolaidd ar draws Ynys Môn. Mae ei gwaith ffelt yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei ‘sgarffiau morforwyn’ sy’n cael eu creu gan ddefnyddio cnu merino a sidanau

20A Church Street
Ers dros 40 mlynedd mae fy ngwaith wedi cael ei ysbrydoli gan y môr a’r mynyddoedd, ond mae’r oll yn dechrau gyda’r awyr! Dw i’n ceisio dal yr hyn mae natur yn ei chreu.

Llandyfrydog
Byddaf yn paentio’r gwrthrych a ddewisaf yn ymosodol, ac yn onest. Ceisiaf ddiystyru technegau a ddysgais i oresgyn problemau mewn paentio fel y bydd iddo ansawdd amrwd a digyfaddawd. Gellir cymryd fy ngwaith fel ffurf o gyfathrebu, mynegi neu ymdrin â rhywbeth. Dyma i bob pwrpas yw’r canlyniad yn y pen draw o geisio cael hyd i naratif yn y paent.

Mae adeiladwaith peintio a phrydferthwch y byd naturiol yn ysbrydoli’r gweithiau cyfoethog yma. Mae’r wefr yn amlwg ac yn heintus. Mwynhewch.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Stolion achlysur arbennig ar gyfer bedyddiadau, penblwyddi a phriodasau. Clociau dathliadol ac addurniadol, placiau a chrogluniau, a theganau pren, a’r cyfan wedi eu llosgi’n unigol a’u peintio â llaw ar bren neu eu hysgythru ar gopr a phiwter. Dyluniadau traddodiadol a chyfoes. Arwyddion tai, mewnol ac allanol, plaen neu â llun, yn cael eu gwneud i archeb. Croesewir comisiynau.

Mount Street

Dw i’n artist tecstiliau cydnabyddedig. Dewch i weld fy mwthyn traddodiadol ym Môn i weld darnau bach wedi’u fframio, darnau crog ar waliau a chwiltiau mawr. Er yn gyfoes mewn arddull caiff rhywfaint o’m gwaith ei ddylanwadu gan batrymau hen gwiltiau Cymreig. Hefyd gwerthu brethynnau a llyfrau
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Greenfield Avenue

Llandyfrydog
Rydw i’n byw ar y ddaear ar hyn o bryd, ac ni wn pwy ydw i. Gwn nad ydw i’n gategori. Nid enw mohonof. Rydw i’n broses esblygiadol – un o swyddogaethau cynhenid y bydysawd. Celf yw’r weledigaeth o’r wybodaeth honno, ac yma mae fy ysbrydoliaeth ar gyfer y syniad hwnnw.