Proffiliau Aelodau

Ffordd Brynsiencyn
Dewch i ymweld â fy stiwdio ysgythru i weld sut mae’r delweddau yn cael eu printio oddi ar blatiau copr a sinc.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Glanrafon
Mae Peter Read yn gwneud printiau giclée lliwgar i godi ei galon. ddeng mlynedd a bydd detholiad o’i ymdrechion gorau yn cael eu harddangos. Mae Peter wedi’i ysbrydoli gan Paul Klee a John Craxton.

Holyhead Road
Fy ysbrydoliaeth yw’r tirlun naturiol a’r hyn a grewyd gan ddyn, a’r berthynas rhyngddynt. Ceisiaf ddisgrifio effaith goleuni ar yr hyn a welaf. Gweithiaf mewn olew ac acrylig yn bennaf.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Menai Bridge
Mae cerfluniau a phaentiadau Dottie-may yn symbol o
themâu personol trwy fotiffau o chwilfrydedd naturiol
a’r ffigwr benywaidd. Mae gwaith Jonathan yn archwilio
natur, cof, a chanfyddiad trwy baentiadau olew haniaethol.

Mae Llio Rhydderch yn delynores teires o enwogrwydd rhyngwladol. Mae wedi cydweithio gyda nifer o gerddorion amlwg o wahanol gefndiroedd ac wedi perfformio mewn nifer o brif wyliau rhyngwladol. Yn ei chyfansoddiadau mae dylanwad ysbrydolwydd Celtaidd, hen hanes a chwedloniaeth Cymru yn drwm ar ei gwaith.

Millbank
Mae straeon, natur a bywyd yng Nghymru yn fy ysbrydoli i wneud paentiadau a cherfluniau. Dw i wrth fy modd yn arbrofi gyda phob mathau o dechneg a deunyddiau i wneud fy ngwaith yn ddiddorol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Bae Trearddur
Dw i wedi cael fy ysbrydoli gandirwedd byd natura a
phobi Ynys Mon. Dw i’n mwynhau gweithio a phob mathau o gyfryngau. Ar hyn o bryd, mae i’n well gen i weithio â dyfrilliw, pastel ac inc
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Rwyf yn paentio’n bennaf trwy gyfrwng dyfrlliwiau ac acryligion. Rwyf yn mwynhau paentio tirluniau, morluniau, adeiladau a gwahanol wrthrychau mewn mannau anghysbell o Fôn, fel coed wedi eu plygu gan y gwynt, hen giatiau, waliau a hen beiriannau amaethyddol.

Penmon
Mae fy mhrintiadau yn gymysg o ysgythriadau o’r byd naturiaol, a phrintiadau leino – llawer mewn dull cardiau gwaith llaw. Mae themau fy ngwaith yn cynnwys delweddau natur yn gysylltiedig â fy ngwaith gyda AHNE, nofio gwyllt ac ychydig ar beintiadau Dwyreiniol pell ac Indiaidd. Mae’r elw yn cael ei roi i www.brightsparks.org – elusen Brydeinig sy’n cefnogi ysgol gynradd fechan i blant sy’n gweithio yn India.

Cemlyn
Geiriau, gwyneb, perthyn, tir, porthladd, pobol, haenau, dwr, chwilio, chwerthin, rhythm, sŵn, erydu, tywydd, gwead, môr, hap a damwain, patina, paent, argraffu, anifail, cyfosod, aderyn, acrylig, olew, hwyl, ymlwybro, plastig, llyfnu, lliw, treugliad amser, graffit, leino, hiraeth, cyswllt, cariad, Cymreictod, côf.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

The Boatpool
Wrth gael fy ysbrydoli’n weledol gan arfordir Môn a chregyn wedi torri, dw i’n creu cerfluniau cerameg sy’n adlewyrchu’n taith trwy fywyd, gan atseinio’r nerth a’r breuder sydd ynom ni.
Due to unforseen circumstances I will not be able to open on the 1st of April.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw

Star
Arlunydd bywyd gwyllt yw Ian ac mae’n gweithio mewn pensil graffit, dyfrlliw ac olew, a’i brif ddiddordeb yw adar. Mae’n aelod o Gymdeithas Ryngwladol Celf Bywyd Gwyllt ac mae’n arddangos yn eu harddangosfa flynyddol a gynhelir yn Nature in Art, Twigworth, Caerloyw, gan dderbyn tair gwobr yn 2007 a 2008.

Mae Keith Shone, a aned yn 1931 ym Mynydd Isa, yn fwyaf dnabyddus am ei baentiadau realistig o chwareli a mynyddoedd Eryri. Mae gwaith newydd Keith yn ymdrin â’r un deunydd pwnc, ond yn defnyddio amrywiaeth o wahanol dechnegau i greu delweddau haniaethol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Diddordeb bod yn hunan-gyflogedig? Gall y Ffatri Fenter® trwy gynllun Blas Ar Fenter gefnogi unigolion di-waith Môn ac Arfon i ddatblygu syniad busnes a rhoi cyfle I gleientiaid I dreialu’r syniad busnes. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch celf a chrefft ein cleientiaid.

Bull Bay Road
Llythrennau, geiriau, rhyddiaith – defnyddiaf galigraffeg i greu darnau hardd o gelf, gydag iaith yn graidd iddynt. Mae’r gwaith yn amrywio o’r anarferol i’r ffurfiol, fel comisiynau personol neu dim ond er mwyn y pleser o greu rhywbeth.