Rydw i’n byw ar y ddaear ar hyn o bryd, ac ni wn pwy ydw i. Gwn nad ydw i’n gategori. Nid enw mohonof. Rydw i’n broses esblygiadol – un o swyddogaethau cynhenid y bydysawd. Celf yw’r weledigaeth o’r wybodaeth honno, ac yma mae fy ysbrydoliaeth ar gyfer y syniad hwnnw.