Wythnosau Celfyddydau Perfformio
Fforwm Celfyddydau Ynys Môn yn lansio Wythnos Celfyddydau Perfformio Ynys Môn (APAW) i ddathlu a hyrwyddo talent amrywiol Ynys Môn, a fydd yn cynnwys detholiad eang o ddrama i oedolion a chynulleidfaoedd teuluol ynghyd ag ystod eang o arddulliau cerddorol. Mae hefyd yn cynnwys wythfed Gŵyl Ffilm Ynys Môn, SeeMôr VIII.
Mae croeso i grwpiau, cymdeithasau a pherfformwyr Ynys Môn gysylltu â ni i ymuno yn yr Wythnosau.
Yn rhedeg o 15-30 Hydref 2022

(English) Llangoed
Mae hanes, storiau a gwaith celf cyfoes yn dwad at ei gilydd yn yr arddangosfa gynhwysfawr yma ym maenordy 100 mlwydd oed Plas Bodfa. Dewch i ddarganfod 77 gwaith creadigol drwy ddulliau gweledol, clywedol, perfformiad a gosodiadau-safl- eoedd penodol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Ffordd Brynsiencyn
Dewch i ymweld â fy stiwdio ysgythru i weld sut mae’r delweddau yn cael eu printio oddi ar blatiau copr a sinc.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

The Bulkeley Hotel
Gwaith wedi ei ysbrydoli gan ei ffydd a chan wead a lliw yn y tirwedd, coed a’r môr o gwmpas Ynys Môn. Peintiadau amlgyfrwng gan gynnwys sidan, dyfrlliw, pastel a batic. Yn cynnal gwersi a chlybiau yn wythnosol. Mae gweithdai ar gael. Artist preswyl yng Ngwesty’r Bulkeley.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Chapel Street
Yn dathlu 22 mlynedd yn Stiwdio Galeri Gaerwen Isaf. Datblygiad cyffrous newydd yn defnyddio delweddau 2D o’r Tryloywder Tirluniau gyda fformat 3D. Mae peintiadau gwreiddiol, printiadau a chardiau lled-giwbaidd dal ar gael.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Llangoed
Dw i’n grochenydd sy’n gwneud potiau a phlatiau lliwgar i’w defnyddio ar bwrdd cinio. Dw i’n mwynhau anwadalwch y broses danio, lle mae diffyg rheolaeth lawn o drawsnewidiad y clai a’r gwydreddau yn dod â bywiogrwydd i’r darn.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Rhosybol
Ffotograffydd tirluniau sydd wedi cael ei waith ar BBC yn ddiweddar. Ers cychwyn y busnes yn 2018 dw i wedi cael sylw anhygoel gan y cyhoedd, yn anfon fy ngwaith dros y byd. Dw i’n teimlo’n angerddol mod i eisiau rhannu’r prydferthwch sydd o’n hamgylch.
Ar agor trwy’r flwyddyn

Mae adeiladwaith peintio a phrydferthwch y byd naturiol yn ysbrydoli’r gweithiau cyfoethog yma. Mae’r wefr yn amlwg ac yn heintus. Mwynhewch.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Millbank
Artist, cynllunydd, awdur, athrawes, darlithydd prifysgol, merch busnes a chantores! Mae Grace yn cyfuno ei ffydd a’r chreadigrwydd i greu ystod eang o brintiadau, cardiau, anrhegion ac offer cartref. Mae ei gwaith yn aml-gyfrwng.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw