Mae fy stiwdio wedi’i lleoli yn yr ardd a dyna lle rydw i’n gweithio ac yn arddangos fy nghelf. Rwy’n paentio tirluniau o Ynys Môn a Gwynedd mewn acrylig, olew a dyfrlliw a minnau hefyd yn ymgymryd â chomisiynau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Taith gerdded trwy stiwdio a thirwedd gyda’r tywysydd taith Kath Thomas yn cychwyn o faes parcio Priordy Penmon ac yn ymweld a stiwdios artistiaid cyfagos.